Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl ifanc i gofio pwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol, gan fod nifer yr achosion Coronafeirws (COVID-19) positif ledled Cymru yn peri pryder.
Dywedodd Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae ein hymchwiliadau i nifer o achosion o Coronafeirws wedi nodi bod diffyg cadw pellter cymdeithasol, yn enwedig gan leiafrif o’r grŵp oedran 20-30 oed, wedi arwain at ledaenu’r feirws i grwpiau eraill o bobl.
“Hoffwn apelio’n uniongyrchol i bobl ifanc i gofio, hyd yn oed os ydynt yn meddwl na fyddai COVID-19 yn effeithio'n wael arnynt pe byddent yn profi'n bositif am y feirws, pe byddent yn ei drosglwyddo i aelodau hŷn neu fwy agored i niwed o deulu, ffrindiau neu gydweithwyr, gallai fod yn hynod o ddifrifol, hyd yn oed yn angheuol.
“Er gwaethaf y ffaith bod cyfraddau heintio yn is yng Nghymru, nid yw Coronafeirws wedi diflannu. Cyfrifoldeb pawb o hyd yw helpu i atal y feirws hwn rhag lledaenu. Hynny yw, trwy hunanynysu pan ofynnir i unigolion wneud hynny, aros dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill a thrwy olchi’ch dwylo yn rheolaidd.
“Rwy’n deall nad yw’n hawdd cadw at y mesurau hyn, a’u bod yn gwneud ein bywydau gwaith a chymdeithasol yn anoddach, ond os bydd pawb yn cymryd y camau hyn byddwn yn sicrhau bod Cymru yn lle mwy diogel i bawb – gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed.”