Cyhoeddwyd: 26 Awst 2022
Yn dilyn y pum mis sychaf mewn mwy na 40 mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymestyn y rhybudd sychder a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn ar gyfer Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin, i gwmpasu'r cyfan o Dde a Chanolbarth Cymru.
Er y gallai hyn swnio'n bryderus, ar hyn o bryd nid oes pryderon ynghylch cyflenwad dŵr yfed ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awyddus i sicrhau pobl y gallant barhau i yfed dŵr ac ymolchi, yn ogystal â defnyddio dŵr yn fwy cyffredinol ar gyfer coginio a glanhau fel arfer.
Meddai Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol:
“Yn dilyn y cyhoeddiad hwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, hoffem sicrhau pobl y gallant barhau i yfed dŵr fel y byddent fel arfer. Fel y gwyddom, mae hefyd yn bwysig iawn golchi eich dwylo'n rheolaidd ac nid yw'r cyhoeddiad hwn yn newid hynny. Nid yw'n golygu ychwaith na allwch gael cawod na defnyddio dŵr ar gyfer coginio. Ond, gallwn i gyd helpu; gallwch droi'r tapiau i ffwrdd pan nad oes eu hangen, gan gynnwys wrth frwsio'ch dannedd, gallwch gael cawod yn lle bath a gallwch sicrhau bod unrhyw ollyngiadau gartref yn cael eu trwsio.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr ardaloedd sydd wedi'u heffeithio gan y cyhoeddiad hwn, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru yma.
I gael rhagor o gyngor ar sut i arbed dŵr gartref, ewch i wefan Dŵr Cymru yma.