Neidio i'r prif gynnwy

Annog rhieni i fod yn wyliadwrus am symptomau norofeirws

3 Ionawr 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni a gofalwyr i fod yn wyliadwrus am symptomau norofeirws cyn i ysgolion a meithrinfeydd ailagor, wrth i achosion o'r salwch gynyddu yng Nghymru.

Dylai plant sydd â symptomau norofeirws - dolur rhydd a/neu chwydu - aros i ffwrdd o'r ysgol neu'r feithrinfa pan fydd ganddynt symptomau, ac am 48 awr ar ôl i'w symptomau ddod i ben.

Cynyddodd nifer yr achosion o norofeirws yng Nghymru 26 y cant yn yr wythnos yn arwain at 22 Rhagfyr, o 39 i 49 o achosion yr wythnos flaenorol. Rhwng 30 Medi a 22 Rhagfyr, roedd yr achosion 42 y cant yn uwch na'r un cyfnod y llynedd.

Dylai pobl sy'n sâl â symptomau norofeirws olchi eu dwylo'n drylwyr â sebon a dŵr cynnes am o leiaf 30 eiliad ar ôl defnyddio’r toiled a chyn paratoi bwyd.  Ni ddylent rannu tywelion ag eraill, a dylent ystyried defnyddio toiled ar wahân os yw hynny'n bosibl.

Meddai Wendi Shepherd, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer yr achosion o norofeirws ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gan ei fod yn anhwylder stumog cyffredin sy'n mynd ar led yn ystod misoedd y gaeaf. Fodd bynnag, rydym yn pryderu am gynnydd yn nifer yr achosion y gaeaf hwn o gymharu â'r llynedd.

“Y peth pwysicaf y gallwn ei wneud i atal lledaeniad yw sicrhau bod plant yn cael eu cadw allan o'r ysgol neu'r feithrinfa am 48 awr ar ôl i'w symptomau ddod i ben.

“Golchwch eich dwylo'n drylwyr â sebon a dŵr cynnes ar ôl defnyddio'r toiled neu baratoi bwyd, a chofiwch fod hylif diheintio dwylo yn aneffeithiol yn erbyn norofeirws. Peidiwch â rhannu tywelion, a pheidiwch â pharatoi bwyd i eraill os oes gennych symptomau norofeirws.”

Prif symptomau norofeirws yw chwydu a dolur rhydd. Mae symptomau eraill yn cynnwys twymyn ysgafn, cur pen, crampiau yn y stumog a phoen yn aelodau'r corff.

Mae hylendid golchi dwylo da hefyd yn atal lledaeniad feirysau tymhorol eraill fel ffliw, a feirws syncytiol anadlol (RSV).