Neidio i'r prif gynnwy

Annog pobl i gael brechlyn ffliw i leihau'r risg o salwch difrifol mewn pobl sy'n agored i niwed

Cyhoeddwyd: 1 Hydref 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl â chyflyrau iechyd hirdymor i gael eu brechiad rhag y ffliw y gaeaf hwn i helpu i'w hamddiffyn rhag salwch difrifol.

Gall y ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i bobl â chyflyrau iechyd penodol fel asthma a diabetes sy'n eu gwneud yn fwy agored i gymhlethdodau difrifol o ganlyniad i feirws y ffliw.

Mae oedolion â chlefyd cronig yr afu dros 48 gwaith yn fwy tebygol o brofi canlyniadau difrifol o'r ffliw, tra bod y rhai â systemau imiwnedd gwan yn wynebu risg sydd dros 45 gwaith yn uwch na'r boblogaeth gyffredinol.

Cynigir y brechlyn ffliw bob blwyddyn i helpu i amddiffyn y rhai sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol. Mae'n arbennig o bwysig i oedolion hŷn, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, plant ifanc a menywod beichiog gan y gall dal y ffliw yn ystod beichiogrwydd gael effaith ddifrifol ar iechyd menywod beichiog a babanod.

Mae bron i filiwn o bobl yng Nghymru yn cael eu brechu bob blwyddyn i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid rhag y ffliw. Y llynedd yng Nghymru, gwnaeth bron i 200,000 o bobl â chyflyrau fel diabetes, asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a chlefyd y galon amddiffyn eu hunain trwy gael eu brechlyn ffliw.

Cafodd mwy na 10,000 o fenywod beichiog yng Nghymru eu brechlyn ffliw y llynedd hefyd i helpu i amddiffyn eu hunain a'u babanod.

Mae brechiad rhag y ffliw yn lleihau'r risg o haint, yn lleihau difrifoldeb y salwch, yn helpu i amddiffyn grwpiau agored i niwed rhag cymhlethdodau difrifol ac yn lleihau'r tebygolrwydd o ledaenu'r salwch i eraill.

Mae'r rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim gan y GIG yn cynnwys pobl 65 oed a hŷn, pobl rhwng chwe mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, gofalwyr, menywod beichiog a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.

Mae plant dwy a thair oed (ar 31 Awst 2025) yn gymwys, ac mae plant ysgol gynradd ac ysgol uwchradd (blwyddyn derbyn i flwyddyn 11) hefyd yn gymwys i gael brechlyn ffliw. Rhowch eich cydsyniad i’ch plentyn gael ei frechlyn ffliw er mwyn helpu i’w amddiffyn rhag salwch difrifol.

Brechiad rhag y ffliw yw un o'r ffyrdd y gallwn gefnogi pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, a thrwy hynny helpu i atal salwch, canfod problemau'n gynnar, a sicrhau bod gofal yn diwallu anghenion pobl.

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae feirysau’r gaeaf fel y ffliw yn lledaenu’n hawdd a gallant fod yn ddifrifol iawn i bobl hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd.

“Rydyn ni’n cael ein brechu bob gaeaf er mwyn aros yn iach – dyma’r amddiffyniad gorau sydd gennym ni felly mae’n bwysig eich bod yn cael eich brechlyn cyn gynted â phosibl.

“Mae amddiffyniad rhag y ffliw yn pylu dros amser. Cael eich brechlyn ffliw bob blwyddyn yw’r ffordd fwyaf effeithiol o’ch helpu i aros yn ddiogel rhag salwch difrifol, a all arwain at gael eich derbyn i’r ysbyty.

“Bydd llawer o bobl hefyd yn gymwys i gael brechiadau eraill sy’n helpu i atal heintiau sy’n fwy cyffredin yn ystod y gaeaf, yn cynnwys COVID-19 a Feirws Syncytiol Anadlol (RSV). Mae'r brechlynnau hyn, gyda’i gilydd, yn rhoi’r amddiffyniad gorau yn erbyn y feirysau sy’n achosi i lawer o bobl gael eu derbyn i’r ysbyty ac sy’n rhoi pwysau ar adnoddau'r GIG y gaeaf hwn.

“Gall y ffliw gael effaith wirioneddol ar eich bywyd bob dydd yn cynnwys y gwaith, yr ysgol, y teulu a gweithgareddau cymdeithasol. Ar ôl i chi gael eich apwyntiad, gwnewch nodyn atgoffa i fynd i’ch apwyntiad ac amddiffynnwch eich hun a'r bobl rydych chi'n gofalu amdanyn nhw.”

Dywedodd Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru: “Mae pethau y gallwn ni eu gwneud i helpu i atal salwch rhag lledaenu yn ystod y gaeaf, yn ogystal ag amddiffyn ein hunain. Brechu yw'r arf mwyaf effeithiol yn erbyn y ffliw o hyd, ond mae mesurau hylendid syml fel golchi dwylo'n rheolaidd, ac aros gartref os ydych chi'n sâl, hefyd yn helpu i atal heintiau a all fod yn ddifrifol iawn i rai pobl.

“Dechreuodd tymor y ffliw yn gynnar y llynedd a pharhaodd drwy gydol y gaeaf, gan ychwanegu pwysau at y system iechyd a gofal ac effeithio ar ddarparu gwasanaethau meddygol. Peidiwch ag oedi cyn cael eich brechiadau pan gewch eich gwahodd, rhowch yr amddiffyniad gorau i chi'ch hun ar gyfer y tymor sydd i ddod.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael eich brechlynnau, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.