Cyhoeddwyd: 8 Mehefin 2022
Mae Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru a’r Cynllun Gwobrwyo gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i gynllunio i helpu contractwyr gofal sylfaenol annibynnol (practis cyffredinol, optometreg gymunedol, fferylliaeth gymunedol ac ymarfer deintyddol gofal sylfaenol) i wella cynaliadwyedd amgylcheddol eu hymarfer o ddydd i ddydd.
Meddai Angharad Wooldridge, Uwch-ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r fframwaith ar-lein ac am ddim ac mae'n cynnwys dros 50 o gamau gweithredu y gall practisau ddewis ohonynt, gan gynnwys newid bylbiau golau i ragnodi anadlydd; o hyrwyddo teithio llesol i gaffael deunyddiau wedi'u hailgylchu. Yn dibynnu ar nifer y camau a gyflawnir, dyfernir statws Efydd, Arian ac Aur i bractisau.
“Mae wedi'i gynllunio i fod yn hawdd i'w ddefnyddio a byddem yn annog pob darparwr gofal sylfaenol i ymuno a rhoi cynnig arni. Y gweithredoedd bach gan lawer fydd yn cael yr effaith fwyaf ar newid hinsawdd a gobeithio y bydd y cynllun hwn yn helpu tuag at y nod hwnnw.
“Mae gan bractisau sy'n dymuno cymryd rhan tan fis Hydref i gwblhau camau gweithredu a chyflwyno tystiolaeth ar gyfer cylch eleni. Cofrestrwch yma
Meddai Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n lansio'r cynllun:
“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ein ffocws priodol fel cenedl ac fel GIG wedi bod ar y pandemig. Ond wrth i ni symud y tu hwnt i'r ymateb argyfwng i'r pandemig a dysgu i fyw'n ddiogel gyda'r feirws, mae angen i ni ddyblu'n hymdrechion ar yr argyfwng arall – yr argyfwng hinsawdd, nad yw wedi diflannu.
“Fel llywodraeth – ac fel gwasanaeth iechyd – rydym yn ymrwymedig i gyflawni ein targedau datgarboneiddio a gwneud ein cyfraniad at fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd. Mae gennym darged cyffredinol i Gymru ddod yn sero-net erbyn 2050. Ond mae gennym darged llawer mwy ymestynnol i'r sector cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, i gyflawni sero-net erbyn 2030 – ychydig o dan wyth mlynedd i ffwrdd. Os ydym yn mynd i gyflawni'r uchelgais hwn, bydd angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd i leihau allyriadau a datgarboneiddio
“Byddwn yn annog practisau meddygon teulu, fferyllfeydd cymunedol, meddygfeydd deintyddol a phractisau optometreg i gofrestru gyda'r Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach a'r Cynllun Gwobrwyo. Wrth ymuno â'r cynllun, byddwch yn rhan o rwydwaith cynyddol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi ymrwymo i adeiladu arfer gwyrddach wrth wneud penderfyniadau bob dydd.”
Mae'r Fframwaith a'r camau gweithredu wedi'u datblygu gan y Ganolfan Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi'u cefnogi gan y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol ac mewn cydweithrediad ag amrywiaeth eang o randdeiliaid allanol drwy Grŵp Arbenigol y prosiect a'u profi gyda nifer bach o safleoedd peilot. Roedd yr adborth yn cynnwys:
“Yn ein hymarfer, rydym wedi gwneud newidiadau gwirioneddol na fyddem wedi'u gwneud oni bai ein bod wedi cael ein sbarduno gan y pecyn cymorth i'w gwneud.”
“Ac nid yw mor anodd ag y mae'n swnio mewn gwirionedd. Mae'r rhan fwyaf o fod yn gynaliadwy yn ymwneud â chyfnewid am bethau rydych eisoes yn eu gwneud.”
Mae pob cam gweithredu wedi'i gynllunio i gyd-fynd â Chynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, egwyddorion Gofal Iechyd darbodus a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, lle y bo'n bosibl, ac mae'n cael cefnogaeth lawn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Newid Hinsawdd a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
Meddai Kate Eden, Cyfarwyddwr Anweithredol, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Byddwn yn annog pob contractwr gofal sylfaenol i ystyried ymgorffori'r Fframwaith hwn yn eu harferion o ddydd i ddydd. Drwy ymrwymo i wneud y newidiadau bach, ymarferol a chynaliadwy y mae'n eu hawgrymu, bydd gofal sylfaenol yn arwain y ffordd ar gyfer GIG Cymru sy'n niwtral o ran carbon.”
Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â'r elusen Students Organising for Sustainability UK (SOS-UK) a fydd yn rheoli ei ddefnydd ac yn hyfforddi myfyrwyr Prifysgol Cymru i ddod yn archwilwyr y dystiolaeth a gyflwynir gan bractisau.
I gael rhagor o wybodaeth:
Gwefan: www.primarycareone.nhs.wales.co.uk
E-bost: greenerprimarycare@wales.nhs.uk