Neidio i'r prif gynnwy

Animeiddiad newydd yn dangos manteision defnyddio dull Economi Llesiant yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 19 Awst 2024

Mae animeiddiad newydd a gynhyrchwyd gan y Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, un o Ganolfannau Cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn esbonio'r cysyniad o'r Economi Llesiant a'i dull a'i chymhwyso yng Nghymru, mewn fformat hawdd ei ddeall.

Mae economïau llesiant yn canolbwyntio ar bobl a'r blaned dros elw a chymorth i ddatblygu cymunedau a chymdeithasau ffyniannus, tecach, iach yn ogystal â hyrwyddo ymddiriedaeth mewn llywodraethau a gwasanaethau cyhoeddus.  Maent yn darparu polisïau, cyllid, ac arferion cynaliadwy, mwy teg ac effeithiol drwy ymgysylltu cyhoeddus, preifat a dinesig eang, cydgynhyrchu a gweithredu ar y cyd. 

Mae'r economi llesiant yn gweithio drwy fuddsoddi i gynhyrchu cyfalaf llesiant dynol, cymdeithasol, amgylcheddol, ac economaidd.  

Yng Nghymru, mae'r dull economi llesiant yn gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n ailddiffinio nodau datblygu economaidd er mwyn blaenoriaethu llesiant y boblogaeth. 

Mae GIG Cymru yn sector economaidd allweddol sy'n cyfrannu at y newid i economi llesiant yng Nghymru, gan ysgogi'r economi leol drwy gaffael, creu incwm a chyflogaeth leol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio'n agos gyda Sefydliad Iechyd y Byd, Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd ledled Cymru i lywio'r gwaith o wneud penderfyniadau a blaenoriaethu gwariant, creu a defnyddio tystiolaeth, arfer gorau, ac arbenigedd rhyngwladol, a datblygu offer a dulliau arloesol. 

Meddai Sumina Azam, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r economi llesiant yn gysyniad sydd o fudd i'r cymdeithasau y mae'n gweithredu ynddynt, gan ei bod yn blaenoriaethu amrywiaeth o feysydd ac nid elw ariannol yn unig. 

“Mae ein gwaith yn cefnogi llesiant ac economïau sylfaenol yng Nghymru gan hyrwyddo a llywio ffordd o weithio sy'n seiliedig ar werthoedd, sy'n galluogi mesur gwerth cymdeithasol ac effeithiau llesiant ar bobl, cymunedau a'r amgylchedd, yn ogystal â'r economi. 

“Mae'r animeiddiad hwn, ynghyd ag amrywiaeth o offer eraill, yn rhan o'n gwaith gyda Sefydliad Iechyd y Byd a chyfnewid gwybodaeth gyda gwledydd eraill, gan helpu i ddod â dysgu a dealltwriaeth ar gyfer polisïau llesiant a buddsoddiadau i Gymru.” 

 Meddai Chris Brown, Pennaeth Swyddfa Ewrop Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygu Sefydliad Iechyd y Byd yn Fenis, yr Eidal:  

“Drwy ei Fenter Economi Llesiant Ewrop, mae Sefydliad Iechyd y Byd/Ewrop yn gweithio i ddangos cyd-fanteision buddsoddiadau mewn llesiant, tegwch, a chymdeithasau iach ar gyfer datblygu cynaliadwy a chynhwysol.  

“Cymru yw un o'r ychydig wledydd yn fyd-eang lle mae deddfwriaeth yn sail i lesiant. Gan weithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd/Ewrop a Swyddfa Ewrop Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygu Sefydliad Iechyd y Byd, mae Cymru ar fin sefydlu ei hun fel safle arloesol ar gyfer galluogi a datblygu economïau llesiant.” 

I weld yr animeiddiad, a dysgu rhagor am yr economi llesiant yng Nghymru, cliciwch yma.