Neidio i'r prif gynnwy

Angen strategaeth unedig i sbarduno cydweithio ym maes Ymchwil Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 21 Mai 2025

Mae creu amgylchedd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Academaidd (YICA) cadarn yng Nghymru yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â heriau iechyd y boblogaeth, symud arloesi yn ei blaen a chefnogi twf economaidd. Er bod hanes sylweddol o gynnal ymchwil iechyd y cyhoedd ac amgylchedd polisi ffafriol, mae maes YICA yng Nghymru yn wynebu heriau oherwydd bod capasiti yn gyfyngedig, llai o gyllid ar gael, a diffyg dull strategol ar draws y system. Bydd gwrthdroi'r duedd ar i lawr hon yn gofyn am strategaeth amlhaenog, hirdymor, yn ystod cyfnod o bwysau ariannol ehangach sy’n effeithio ar yr amgylchedd ymchwil yng Nghymru.  

Ar hyn o bryd, nid oes strategaeth gydlynol ar gyfer cynnal ymchwil iechyd y cyhoedd yng Nghymru, ac mae hyn yn arwain at waith tameidiog ac aneffeithlonrwydd. Er bod Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) mewn sefyllfa dda i allu hwyluso datblygiadau strategol, rhaid i Lywodraeth Cymru, y Prif Swyddog Meddygol, a chydweithrediadau â Sefydliadau Addysg Uwch, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, awdurdodau lleol, a'r trydydd sector, fod yn rhan o sicrhau y cânt eu harwain yn effeithiol. Bydd rhoi ffocws ar gryfderau unigryw a meysydd blaenoriaeth Cymru yn hanfodol i sicrhau effaith a chynaliadwyedd.  

Mae'r adroddiad hwn wedi nodi sawl cyfle ar gyfer YICA yng Nghymru:  

  • Cydlynu Strategol: Gallai strategaeth YICA unedig a fyddai’n canolbwyntio ar gryfderau unigryw Cymru ac a fyddai’n cyd-fynd â blaenoriaethau iechyd y boblogaeth wella'r gallu i ddenu adnoddau a chynyddu cynaliadwyedd ac effaith rhaglenni ymchwil.  
  • Creu Rhagor o Gapasiti: Gall ehangu’r cyllid cynaliadwy sydd ar gael ar gyfer swyddi ymchwil, meithrin cydweithio rhyngddisgyblaethol, a manteisio ar fentrau ar lefel Llywodraeth Cymru a'r DU gryfhau’r seilwaith YICA.  
  • Datblygu’r Gweithlu: Mae buddsoddi mewn llwybrau gyrfa, swyddi ar y cyd, a rhaglenni hyfforddi ar gyfer ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd a gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd eraill yn hanfodol ar gyfer sicrhau twf yn y dyfodol.  

Yr Argymhellion a'r Camau Nesaf  

Datblygu Gweledigaeth a Strategaeth: Mewn cydweithrediad â phob Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru, dylai Iechyd Cyhoeddus Cymru arwain datblygu strategaeth YICA wedi’i chydlynu a fydd yn diffinio gwerthoedd craidd, nodau tymor byr a hirdymor, a chamau y gellir gweithredu arnynt. Dylai hyn fanteisio ar asedau a chydweithrediad YICA Cymru, i wella’r capasiti ymchwil, llwyddiant o ran cyllido ymchwil, ac effaith yr ymchwil honno.  

Rhoi Ffocws ar Gryfderau Strategol Cymru: Nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer cynnal ymchwil sy'n cydbwyso arloesi ag anghenion iechyd y cyhoedd cymhwysol a meithrin cydweithio rhwng Sefydliadau Addysg Uwch a rhanddeiliaid cenedlaethol a rhyngwladol eraill i wneud y mwyaf o botensial ymchwil Cymru.  

Sicrhau Rhagor o Gyllid a Chryfhau Partneriaethau: Meithrin perthnasoedd cryfach â chyllidwyr cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau bod ffrydiau ariannu yn mynd i'r afael â’r heriau iechyd y cyhoedd sy’n bodoli yng Nghymru, cefnogi rhagor o fuddsoddiad yn seilwaith YICA Cymru, ac annog ceisiadau cystadleuol am grantiau drwy gryfhau capasiti a chydweithrediad rhwng y sefydliadau.  

Cefnogi’r Genhedlaeth Nesaf o Ymchwilwyr Iechyd y Cyhoedd: Datblygu piblinell gynaliadwy o ymchwilwyr iechyd y cyhoedd a fydd â’r adnoddau i fynd i'r afael â heriau'r dyfodol. Creu llwybrau gyrfa clir, gwella’r hyfforddiant ymchwil sydd ar gael, a hyrwyddo secondiadau a swyddi ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sefydliadau Addysg Uwch a phartneriaid eraill.   

Mae gan y system YICA yng Nghymru botensial i fynd i'r afael â heriau iechyd dybryd drwy gynnal ymchwil o ansawdd uchel ac effeithiol. Mae'r adroddiad yn tanlinellu bod angen strategaeth wedi’i chydlynu, rhagor o gyllid, mecanweithiau cydweithio cryfach, a ffocws ar ddatblygu llwybrau gyrfa i gynnal a thyfu capasiti ymchwil iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae'n galw ar randdeiliaid allweddol i feddwl yn wahanol a gweithio gyda'i gilydd i wneud y mwyaf o gryfderau ac asedau'r system a datblygu'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr iechyd y cyhoedd. Drwy feithrin cydlynu strategol, gwella capasiti, a buddsoddi mewn datblygu gyrfaoedd ym maes iechyd y cyhoedd, gall Cymru greu amgylchedd YICA ffyniannus a fydd yn fuddiol i iechyd y boblogaeth, polisi, a'r economi.  

Am gopi llawn o'r adroddiad gweler y ddolen isod