Mae gwasanaeth Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS) Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y samplau a gyflwynwyd i'w profi yn y flwyddyn ddiwethaf, ac mae amnewid sylweddau o fewn grwpiau cyffuriau yn dueddiad allweddol sy'n dod i'r amlwg.
Mae Adroddiad Blynyddol WEDINOS ar gyfer 2018-19 hefyd yn nodi cynnydd sylweddol mewn meddyginiaethau ‘presgripsiwn’ nad ydynt wedi'u rhagnodi a gyflwynir i'w gyfleuster profi am gyffuriau.
Fel yn 2017/18, bensodiasepinau oedd y dosbarth mwyaf cyffredin o sylweddau seicoweithredol.
Mae bensodiasepinau fel Diazepam, Etizolam ac Alprazolam (Xanax) yn gyffuriau tawelu cyffredin sy'n aml yn cael eu rhagnodi ar gyfer gorbryder ac anhunedd. Yn ogystal â defnydd meddygol rhagnodedig, defnyddir bensodiasepinau fel cyffuriau hamdden a cheir tystiolaeth o farchnad sy'n tyfu o ran gweithgynhyrchu a dosbarthu sylweddau bensodiasepin newydd.
Eleni, canfu WEDINOS bod y samplau a gyflwynwyd fel bensodiasepinau, yn arbennig, diazepam, yn cael eu hamnewid yn amlach; Cafwyd bod 71% o'r holl samplau a gyflwynwyd fel diazepam yn chwarter cyntaf 2019 yn cynnwys sylweddau eraill.
Meddai Josie Smith, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Arweinydd Rhaglen WEDINOS: “Er bod pryderon bob amser a'r potensial ar gyfer effeithiau andwyol o ddefnyddio sylweddau seicoweithredol, mae'r risg yn cynyddu yn sgil y ffaith bod mwy o sylweddau yn cael eu hamnewid o fewn y farchnad bensodiasepin anghyfreithlon heb ei rheoleiddio.
“Gan fod sylweddau amnewid yn amrywio o ran dosau therapiwtig a hyd effeithiau, ceir pryder ynghylch y potensial cynyddol i unigolyn brofi effeithiau andwyol ac acíwt; gan gynnwys gorddos damweiniol, cyfnod yn yr ysbyty a marwolaeth.”
Am y tro cyntaf eleni, profodd WEDINOS samplau bensodiasepinau a gyflwynwyd ar ffurf pecyn pothellog a oedd yn cynnwys sylwedd a oedd yn wahanol i'r hyn a enwyd ar y pecyn.
Mae Josie Smith yn parhau: “Mae'r dystiolaeth o amnewid yn dangos hyd yn oed os yw person wedi prynu tabledi sy'n edrych fel meddyginiaeth, efallai nad ydynt yn cynnwys y cynnwys a ddatganwyd. Mae hyn yn her o ran iechyd y cyhoedd a'r angen am fwy o ymwybyddiaeth a chyngor ac addysg bragmatig am leihau niwed.”
Mae’r adroddiad yn dangos cynnydd o 58% o ran nifer y samplau a gyflwynwyd i WEDINOS ar gyfer profi yn 2018-19 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cafodd cyfanswm o 2,145 o samplau eu profi rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2019.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn paratoi adroddiadau a gwybodaeth i ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau ei fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau i ddiogelu a gwella iechyd.
Gellir lawrlwytho'r adroddiad llawn yn Philtre - Adroddiad Blynyddol Apr 2018 - Mar 2019
Gall y rhai sy'n ceisio cymorth ar gyfer pryderon sy'n ymwneud â chyffuriau neu alcohol gysylltu â Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru ar radffon 0808 808 2234, drwy decstio DAN i: 81066 neu drwy fynd i dan247.org.uk