Cyhoeddig: 23 Hydref 2023
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canfod bod partneriaid yn y sector cyhoeddus yn cynyddu eu hymdrechion i wella iechyd a llesiant drwy fynediad at waith teg.
Gwaith teg yw lle mae gweithwyr yn cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli, yn ddiogel ac yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach, cynhwysol lle mae hawliau'n cael eu parchu. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i adeiladu economi sy'n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.
Mae cymryd rhan mewn gwaith teg yn floc adeiladu hanfodol ar gyfer iechyd da. Mae'n rhoi ymdeimlad o ddiben ac adnoddau ar gyfer bywyd iach. Gall hyn yn ei dro leihau straen a helpu plant yn y teulu i gael y dechrau gorau mewn bywyd.
Ers mis Mai 2022, mae'r Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn ymgysylltu ag asiantaethau ledled Cymru i'w cynorthwyo i gysylltu gwaith teg ac iechyd, llesiant a thegwch a deall pa gamau gweithredu y gallant eu cymryd. Mae hyn yn adeiladu ar eu canllaw a'u hadnoddau ar gyfer partneriaid lleol a rhanbarthol i gynyddu cyfranogiad mewn gwaith teg er mwyn gwella iechyd, llesiant a thegwch.
Canfu'r adroddiad Gwaith Teg ar gyfer Iechyd, Llesiant a Thegwch: Cam Ymgysylltu y bu cynnydd sylweddol yn nifer y cynlluniau llesiant sydd wedi'u paratoi gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus sy'n cyfeirio'n benodol at amodau gwaith neu gyflogaeth, gyda rhai'n dyfynnu'r canllaw gwaith teg. Mewn cynlluniau llesiant blaenorol, roedd gan 37% unrhyw amcanion neu gamau gweithredu'n gysylltiedig â gwaith teg a'i nodweddion, ond ar gyfer y cynlluniau a ddatblygwyd yn ystod ymgysylltu Iechyd Cyhoeddus Cymru ar waith teg, erbyn hyn mae gan 85% gamau gweithredu sy'n gysylltiedig â gwaith teg a'i nodweddion. Mae hwn yn un o nifer o ganfyddiadau a nodwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod ei gam ymgysylltu, a oedd yn cynnwys cysylltu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau llesiant.
Roedd y rhai yr ymgysylltwyd â nhw yn ystod y cam hwn yn cydnabod yr heriau o ddylanwadu ar natur gwaith yn y sector preifat o'r tu mewn i Gymru, o ystyried pwerau datganoledig Llywodraeth Cymru. Mae cyrff sector cyhoeddus yn cynyddu cyfranogiad mewn gwaith teg drwy gaffael; prentisiaethau, gwobrwyo teg ac ymgorffori gwaith teg mewn polisïau a chynlluniau.
Meddai Cerys Preece, Uwch-ymarferydd Iechyd Cyhoeddus yn yr Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’n galonogol gweld bod cyrff a sefydliadau cyhoeddus yn datblygu argymhellion ac yn gweithredu meddylfryd gwaith teg yn eu prosesau cynllunio. Gall dull gwaith teg wneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a'u teuluoedd, yn ogystal â dod â manteision busnes ac economaidd.”