Cyhoeddwyd: 5 Tachwedd 2021
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymuno â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i edrych ar ba heriau a chyfleoedd sydd yn y dyfodol ar gyfer creu Cymru fwy cyfartal.
Drwy archwilio'r tair tuedd allweddol, newid hinsawdd, newidiadau i'r ffordd rydym yn gweithio a newid demograffig, mae'r adroddiad newydd, Anghydraddoldeb yng Nghymru’r Dyfodol, yn nodi meysydd gweithredu i atal anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol rhag cael eu cario i'r dyfodol.
Dylai gweithredu ar ganfyddiadau’r adroddiad gynnwys y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn integreiddio ystyriaethau cydraddoldeb i ddatblygu polisi yn gyffredinol, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, dywed ei awduron.
Mae'r adroddiad hwn yn canfod y bydd gwneud y penderfyniadau gorau posibl wrth fynd i'r afael â thueddiadau yn y dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i lunwyr polisi feddwl am yr hirdymor a chynnwys y bobl a'r cymunedau yr effeithir arnynt.
Dywedodd Sumina Azam, Ymgynghorydd mewn Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Er mwyn creu Cymru’r dyfodol rydyn ni ei eisiau, ni ellir gadael unrhyw un ar ôl. Mae hyn yn golygu cydnabod bod llawer o'r heriau sy'n ein hwynebu yn y dyfodol yn codi materion ar gyfer cydraddoldeb ond y gallwn, trwy wneud dewisiadau da, greu Cymru sy’n fwy cyfartal.
“Er enghraifft, gwyddom mai'r rhai sydd wedi'u taro galetaf gan newid yn yr hinsawdd yw'r rhai sydd eisoes fwyaf agored i niwed. Wrth i ni baratoi ar gyfer newid yn yr hinsawdd ac ymateb iddo, rhaid i ni bob amser fod yn meddwl sut mae ein penderfyniadau yn effeithio ar bawb mewn cymdeithas yn y tymor byr a'r tymor hir yn ogystal â chenedlaethau'r dyfodol.
“Mae iechyd a llesiant da i bawb yng Nghymru yn ddyfodol y gallwn ei greu os ydym yn gweithio gyda'n gilydd. Rydyn ni’n gobeithio bod yr adroddiad hwn yn ein cymell ni i gyd i feddwl y tu hwnt i ddull ‘busnes fel arfer’ wrth i ni fynd i’r afael â’r newidiadau sydd i ddod i’n poblogaeth, hinsawdd a byd gwaith.
Mae'r adroddiad newydd, a gyhoeddwyd ar y cyd gan y comisiynydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cyd-fynd â lleisiau o gymuned Gymreig sydd wedi'u difrodi gan lifogydd ac yn dod wrth i arweinwyr y byd ymgynnull yn COP26 - cynhadledd newid hinsawdd fawr y Cenhedloedd Unedig.
Amcangyfrifir bod 245,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd - canlyniad newid yn yr hinsawdd a achosir gan allyriadau carbon cynyddol. Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu mai'r poblogaethau tlotaf a mwyaf ymylol sydd leiaf cyfrifol am newid yn yr hinsawdd, ond eto maent yn fwyaf tebygol o fod yn agored i'w effeithiau negyddol a bod ganddynt yr adnoddau lleiaf i ymateb, ymdopi ac adfer. Gwelwyd hyn, meddai’r comisiynydd, yng Ngogledd Cymru mewn lleoedd fel Llanrwst a Fairbourne, a hefyd ym Mhontypridd sydd wedi cael ei effeithio’n ddifrifol gan lifogydd.
I gyd-fynd â’r adroddiad, cydweithiodd Taylor Edmonds, Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, â phobl yn Llanrwst yn Nyffryn Conwy, sydd wedi dioddef llifogydd helaeth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Yn y gerdd, Emerging from Winter, mae aelodau Grŵp Gweithredu Llifogydd Llanrwst yn siarad am gael eu ‘llusgo o’u gwelyau am dri o’r gloch i lenwi bagiau tywod’ ac yn cwestiynu pa fath o ddyfodol y mae eu hwyrion yn ei hwynebu.
Recordiodd plant ysgol lleol yn Ysgol Bro Gwydir ddarlleniadau o'r gerdd ar gyfer y fideo ingol hon.
Bydd Taylor, 26, yn darllen y gerdd mewn gorymdaith trwy Gaerdydd y dydd Sadwrn hwn (Tachwedd 6) a drefnwyd gan Glymblaid COP 26 Caerdydd.
Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: “Mae newid yn yr hinsawdd yn fater cydraddoldeb ac mae’r adroddiad hwn yn canfod bod y cysylltiad hyd yn hyn wedi cael ei anwybyddu yng Nghymru - rhaid i ni ailddyfeisio polisïau i fynd i’r afael â’r anfanteision i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed.
"Pobl yn ein cymunedau tlotaf, llawer o'r rhai sydd wedi cael eu taro galetaf gan Covid, sydd leiaf abl i fforddio yswiriant a'r gost o unioni pethau ar ôl llifogydd ac mae hynny'n hynod annheg, fel y mae'r ffaith os ydych chi’n Ddu, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig, rydych chi'n fwy tebygol o fod mewn perygl yma ac mewn rhannau eraill o'r byd. Rydych hefyd yn llai tebygol o fod mewn swyddi i fanteisio ar y swyddi newydd o ansawdd uchel y bydd eu hangen arnom i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac mae angen i ni unioni hynny.
“Gyda llifogydd yn digwydd yn fwy ac yn amlach, mae angen cynllun arnom i sicrhau nad yw’r baich ariannol yn disgyn ar y rhai lleiaf galluog i dalu - a dull cytunedig ledled Cymru o sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gallu ymateb yn y ffordd iawn.
“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn dweud bod yn rhaid yn ôl y gyfraith, i’r ffordd rydyn ni’n cyrraedd sero net wella llesiant yn ei gyfanrwydd, i bawb.
“Rhaid i gyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau weithredu nawr i atal y rhai sy’n cael eu heffeithio gan effeithiau dinistriol newid yn yr hinsawdd dan anfantais am genedlaethau.”
Gwelodd Indo Zwingina ganlyniadau’r argyfwng hinsawdd yn ei dinas enedigol, Abuja, prifddinas Nigeria ac mae bellach yn profi’r effaith yn ei chartref newydd yn Nhrefforest, De Cymru.
Effeithiodd llifogydd yn ddifrifol ar RhCT yn ddiweddar. Mae effeithiau Storm Dennis yn 2020, a achosodd i afonydd gyrraedd y lefelau uchaf erioed a phobl yn cael eu symud o'u cartrefi, yn dal i gael eu teimlo. Y mis hwn, gwelodd pobl mewn ardaloedd fel Pontypridd eiddo yn cael ei ddifetha wrth i ddŵr lenwi eu cartrefi eto a gallai costau llifogydd diweddar yn RhCT fod yn £180 miliwn.
“Mae’r llifogydd wedi effeithio ar bawb. Collodd llawer o bobl fusnesau, ac eiddo gwerthfawr na all yswiriant ei ddisodli,” meddai’r fam i dri o blant wyth, 10 a 12 oed, a symudodd i Drefforest ym mis Ionawr eleni i astudio rheolaeth ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae Indo, 40, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a sefydlwyd mewn ymateb i'r llifogydd, i greu ymwybyddiaeth o gysylltiadau tywydd cynyddol ansefydlog â'r argyfyngau hinsawdd a natur, effeithiau ein gweithgareddau ar yr amgylchedd, a manteision ymgysylltu â natur i'n llesiant.
Mae Indo yn aelod gweithgar o Gymuned Meadow Street yn Nhrefforest, prosiect sy'n cael ei redeg gan Gyngor Tref Pontypridd sydd wedi gweld darn o dir segur, wedi'i ddifrodi gan lifogydd, yn dod yn ôl yn fyw fel canolfan ardd a chymuned fywiog. Mae'r prosiect yn cael ei redeg gan gymuned o wirfoddolwyr, ac mae Indo a'i theulu yn rhan ganolog.
“Pan gyrhaeddais, fe allech chi weld llwybrau o sut y daeth y dŵr - roedd gan gynwysyddion enfawr yn yr ardd gymunedol farciau lefel y dŵr o hyd, i fyny yn y gwrychoedd a’r coed,” meddai.
“Bob wythnos, mae gwirfoddolwyr yn dal i gasglu sbwriel a adawyd ar ôl gan y llifogydd. Mae yna bont droed wedi'i difrodi ger fy nghartref sydd heb ei thrwsio o hyd - sy'n golygu bod pawb sy’n cerdded i'r dref yn cymryd mwy o amser.
“Daeth dŵr llifogydd â chlymog i’r ardd gymunedol lle rwy’n gwirfoddoli - mae’n atgof parhaol o bryd y daeth y dŵr”.
Fel person ifanc ar y Gwasanaeth Ieuenctid Cenedlaethol yn Nigeria, dysgodd Indo sut roedd ffaglu nwy (pan oedd cwmnïau olew yn gwaredu nwy nad oedd eu hangen arnynt) yn niweidio'r amgylchedd - yn dyst i'r coed a losgwyd ac yn blasu'r olew crai mewn pysgod o'r farchnad a gweld teiars car yn cael eu taflu yn lle cael eu hailgylchu.
“Roeddwn i'n gwybod bod angen i ni wneud newid, i'r amgylchedd ac i bobl,” meddai Indo, sy'n angerddol am weithredu ar newid yn yr hinsawdd ac sydd am ddefnyddio ei gradd i helpu i newid y ffordd rydyn ni'n byw er gwell.
“Dechreuais ailgylchu, ac uwchgylchu pethau yn lle eu taflu, a siarad â fy ffrindiau am newid yn yr hinsawdd.
“Rydw i eisiau dysgu sgiliau busnes er mwyn i mi allu bod yn rhan o wneud newid yn y ffordd rydyn ni'n gwneud pethau.
“Mae angen i wleidyddion wrando ar bobl er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd - dim ond os ydyn nhw'n ennyn diddordeb pobl ac yn deall eu bywydau a'r realiti iddyn nhw y gallwn ni wneud y newidiadau sydd eu hangen arnyn nhw, ni allan nhw orfodi syniadau ar bobl, mae angen iddo fod am yr hyn y mae angen ac y gall cymunedau ei wneud.”
Yn Nhrefforest, mae Indo a'r gymuned yn treulio amser yn siarad â'n gilydd am newid yn yr hinsawdd a'r hyn y gall pob un ohonom ei wneud yn ei gylch.
Maen nhw'n tyfu llysiau gyda'i gilydd ar y tir a orlifodd gan lan yr afon, gan gynnwys pwmpenni ar gyfer Calan Gaeaf.
“Mae wedi bod yn beth mor gadarnhaol i’w wneud. Rydym yn siarad am sut y gallwn baratoi ar gyfer mwy o lifogydd.
“Ni allwn ei rwystro ond gallwn weithio gyda’n gilydd i helpu i sicrhau bod yr effaith yn fach iawn.”
Gwelodd Sharon Williams o lygad y ffynnon effaith drychinebus newid yn yr hinsawdd yn ei thref enedigol, Llanrwst, yn dilyn Storm Ciara ym mis Chwefror 2020. Gadawyd llawer o rannau o'r dref o dan y dŵr yn dilyn llifogydd dinistriol.
“Dechreuodd lifogydd o un ochr i’r dref i’r llall a phan ffrwydrodd yr afon dyna ni. Doedden ni ddim wedi gweld dŵr yn dod i fyny’r stryd fel yna ers blynyddoedd,” meddai’r fam i ddau 58 oed.
“Mae yna ystâd gyferbyn â ni yma 100 llath i fyny’r ffordd a gorlifodd 90 y cant o’r tai a gwacáu’r preswylwyr.
“Es i mewn i un tŷ ac aeth dynes â mi o gwmpas ac roedd hi wedi colli popeth yn llythrennol. Roedd yn dorcalonnus. Wrth gwrs, mae'n effeithio ar yswiriant bryd hynny hefyd.
Mae Sharon yn gweithio mewn cynllun gofal ychwanegol ar gyfer byw'n annibynnol, Hafan Gwydir, yn y dref ac ar ôl trafod gyda chydweithwyr, penderfynodd sefydlu cegin gawl i helpu'r dioddefwyr llifogydd.
“Yn Llanrwst mae yna gymuned dda lle mae pobl yn rhoi help llaw. Pan wnaethon ni ddarganfod eu bod yn gwagio pobl o’u cartrefi ac na allen nhw fynd yn ôl, rhoddodd yr holl staff yma eu pennau at ei gilydd a gwnaethon ni geisio meddwl am ffordd y gallen ni eu helpu.
“Pan ddaeth pobl i glywed yr hyn yr oeddem yn ei wneud roeddem yn cael galwadau ffôn gan fusnesau drwy’r amser. Rhoddwyd yr holl fwyd. Roedd y pobyddion lleol i lawr y ffordd yn danfon bara, roedd y ffermydd yn danfon bwyd ac roedd ein cyflenwr bwyd a llysiau lleol yn darparu llysiau fel y gallem wneud gwahanol gawliau.
“Fe wnaethon ni hefyd redeg raffl i godi arian i’r dioddefwyr. Gwnaethom hamper enfawr gyda’r holl denantiaid a staff yn gosod eitemau i mewn ac yna gwnaethom basio’r arian a godwyd gennym tuag at y grŵp ar gyfer dioddefwyr llifogydd.”
Roedd sefydlu'r gegin gawl hefyd yn gyfle i denantiaid presennol ryngweithio gyda'r rheini oedd wedi gadael eu cartrefi.
“Roedd y tenantiaid meddiannol yn gwrando ar straeon y rhai a gafodd eu gwagio gan eu bod wedi bod trwy gymaint. Mewn ffordd roedd yn braf gan fod ein tenantiaid yn rhyngweithio â'r rhai o'r tu allan ac yn eu cysuro. Roedd yn agoriad llygad.
I bobl Llanrwst, mae'r bygythiad o lifogydd pellach yn real iawn ond mae Sharon yn teimlo ei bod yn bwysig i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ddysgu o'u profiad.
“Rydyn ni’n byw ar ein nerfau - bob tro rydyn ni'n cael glaw trwm rydyn ni'n meddwl a fydd hyn yn digwydd eto?” meddai.
“Roedd yn brofiad ac yn eich gwneud chi'n ddiolchgar am yr hyn sydd gennych chi. Roeddwn yn teimlo mor flin am y bobl hyn wrth weld yr hyn y maent wedi'i golli ac nid hwn oedd y tro cyntaf i ni gael llifogydd. Mae rhai o'r bobl hyn wedi dioddef llifogydd ddwy neu dair gwaith nawr.
“Mae’n bwysig bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau am lifogydd yn siarad â’r rhai fel ni sydd wedi cael eu heffeithio ganddo yn y gorffennol i ddeall yr effaith.”