Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos bod y cynnydd hirdymor o ran goroesi canser yn arafu.
Dywedodd Dr Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr WCISU: “Mae goroesi canser yn parhau i gynyddu yn gyffredinol yng Nghymru, ond mae’r duedd o ran gwelliant wedi arafu ychydig.
“Nid yw’r cynnydd mwyaf diweddar a welwyd o ran goroesi canser wedi parhau ar yr un gyfradd ag y gwelwyd yn y gorffennol.
“Yng Nghymru, a’r DU yn ehangach, mae ein hadroddiad yn dangos bod goroesi canser am bum mlynedd yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ond dri chwarter yr hyn ydyw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, heb lawer o welliant o ran anghydraddoldeb.
“Ar gyfer y cyfnod diweddaraf a fesurwyd, roedd y bwlch rhwng y goroesi isaf yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a goroesi gwell yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig 11.5 pwynt canran ar gyfer goroesi am flwyddyn, ac 16.8 pwynt canran ar gyfer goroesi am bum mlynedd. Mae’r bwlch o ran goroesi am bum mlynedd yn ehangu ar gyfer canserau’r fron a’r ysgyfaint.
“Mae’n galonogol bod anghydraddoldeb o ran goroesi canser y coluddyn am flwyddyn yn ôl amddifadedd ardal wedi gostwng ychydig, er bod y bwlch yn dal ddwywaith gymaint â chanser yr ysgyfaint.”
Mae Cymru a holl wledydd eraill y DU wedi tueddu i fod â chyfraddau goroesi canser is na llawer o wledydd eraill y gorllewin. Fodd bynnag, dangosodd y data mwyaf diweddar nad oedd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol rhwng Cymru a Lloegr ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ganser, ar wahân i oroesi canser yr ysgyfaint am flwyddyn, a goroesi lewcemia a chanserau’r prostad a’r stumog am bum mlynedd.
“Mae’r gwelliant parhaus o ran goroesi canser yn galonogol, ac o ran canser yr ysgyfaint gwelir cynnydd ymysg y mwyaf i’w gymharu â nifer o ganserau eraill.” aeth Dr Huws yn ei flaen.
“Mae’n debyg cafodd y gwelliannau eu hysgogi’n rhannol gan gyfres o fentrau gofal iechyd ac yn ymwneud â chleifion a gyflwynwyd ar draws Cymru.
“Er y gwelliannau yma, mae anghydraddoldebau o ran goroesi canser yr ysgyfaint, y coluddyn a’r fron yn parhau.
“Yr un pryd, mae gwelliannau ar ran goroesi canser wedi arafu yng Nghymru. Gall hyn fod yn rhannol o ganlyniad i arafu ehangach disgwyliad oes yng Nghymru y degawd hwn.
“Mae hon yn ffenomen ar draws sawl achos o farwolaeth yn cynnwys marwolaeth yn sgil rhai canserau, yn arbennig mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Ymddengys bod nifer o ffactorau cymdeithasol ac economaidd ehangach yn debyg o fod yn dylanwadu disgwyliad oes, er bod y rhesymau drosti yn gymhleth ac yn cael eu hymchwilio ymhellach.
“Nid yw’r duedd hon mewn disgwyliad oes yn unigryw, ac arsylwyd arni ar draws llawer o’r byd gorllewinol ers tua 2011, ond mae’n arbennig o nodedig yn y DU ac UDA.” gorffennodd.