Mae adroddiad newydd gan Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi canfod bod pobl sydd wedi nodi cymorth digonol a chynllunio ymlaen llaw ar gyfer cyfnod posibl o hunanynysu, yn teimlo llai o her gan y posibilrwydd ac yn fwy tebygol o lwyddo.
Cyhoeddwyd yr adroddiad heddiw (24 Mawrth, 2021), ac mae'n cyfuno data o ddwy astudiaeth ar brofiadau pobl yng Nghymru sydd wedi gorfod hunanynysu oherwydd COVID-19.
Dyma brif ganfyddiadau’r adroddiad:
Meddai Dr Richard Kyle, Dirprwy Bennaeth Ymchwil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Hyd yn hyn, mae'r dystiolaeth ar hunanynysu ymhlith cysylltiadau yng Nghymru wedi bod yn gyfyngedig, felly mae'r mewnwelediad hwn yn darparu gwybodaeth hanfodol i helpu i lywio negeseuon a chymorth i bobl yng Nghymru gadw at hunanynysu.
“Mae'r lefelau uchel o hyder ac ymlyniad a nodwyd ymhlith y rhai a ymatebodd yn newyddion i'w groesawu. Canfu ein hastudiaethau fod cynllunio a chael cymorth ar gyfer hunanynysu yn allweddol felly rydym yn annog pawb i gymryd amser i nodi pobl a all eu helpu i hunanynysu a darganfod pa wasanaethau sydd ar gael yn lleol i helpu.”
Roedd gwahaniaethau amlwg yn yr heriau a gofnodwyd gan wahanol grwpiau. Ymhlith menywod a phobl ifanc (18-29 oed) yr effaith ar iechyd meddwl oedd y pryder mwyaf. Ymhlith dynion a'r rhai 40-49 oed, y pryder mwyaf oedd yr effaith ar waith a busnes. Ac ymhlith grwpiau oedran hŷn, y pryder mwyaf oedd eu hiechyd sylfaenol.
Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru
“Y ddwy astudiaeth arloesol hyn yw'r dull systematig cyntaf o goladu'n fanwl y mewnwelediadau gan gysylltiadau COVID-19 sy'n ynysu yng Nghymru.
“Gall deall ffactorau sy'n galluogi ac yn herio cysylltiadau COVID-19 i ynysu, a sut y mae'r profiadau hyn yn wahanol ar draws grwpiau helpu i lywio cymorth a negeseuon yn well ar gyfer cysylltiadau COVID-19 mewn ymateb i'r pandemig.”
Meddai Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiadau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru “Mae hwn yn gyfle i'n hatgoffa ni i gyd i gymryd camau i fod yn barod am gyfnod o hunanynysu, os bydd hynny'n codi. Mae'r canfyddiadau hyn yn rhoi ystyriaethau gwerthfawr ar gyfer gweithredu yn y dyfodol a byddant yn parhau i gefnogi ein gwaith gyda chydweithwyr ar draws byrddau iechyd, rhaglenni Profi, Olrhain Diogelu a Llywodraeth Cymru yn ein camau gweithredu ar y cyd i fynd i'r afael â COVID-19"