Cyhoeddwyd: 18 Chwefror 2021
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi paratoi adroddiad sy'n dadansoddi anghydraddoldebau o ran cwmpas brechu COVID-19 yn ôl rhyw, amddifadedd economaidd-gymdeithasol a grŵp ethnig.
Gan adlewyrchu tuedd ar draws y DU mae'r adroddiad, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng 8 Rhagfyr 2020 hyd at 14 Chwefror 2021, yn amlygu anghydraddoldebau sy'n dod i'r amlwg o ran cwmpas brechu COVID-19 yng Nghymru.
Canfu'r adroddiad bod yr anghydraddoldeb mwyaf o ran canran y rhai sy'n cael eu brechu i'w weld ymhlith grwpiau ethnig mewn oedolion 80 oed a throsodd. Roedd canran y rhai a gafodd eu brechu yn y grwpiau cyfunol Du, Asiaidd, Cymysg ac ethnigrwydd arall yn y grŵp oedran hwn yn 71.5 y cant o gymharu ag 85.6 y cant yn y grŵp ethnig Gwyn, sef bwlch o 14.1 y cant.
Roedd anghydraddoldebau hefyd yn amlwg rhwng oedolion sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mewn oedolion hŷn, roedd y bwlch cydraddoldeb rhwng y rhai sy'n byw yn y cwintelau mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig o ardaloedd yng Nghymru yn 5.7 y cant, 4.4 y cant a 5.2 y cant ar gyfer oedolion 80 oed a throsodd, 75 i 79 oed a 70 i 74 oed yn y drefn honno.
Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Wrth i Gymru barhau ar ei thaith i gyflwyno'r rhaglen frechu COVID-19 genedlaethol, gallwn weld o'r adroddiad hwn bod canran y rhai sy'n cael eu brechu yn is ar hyn o bryd mewn grwpiau sydd mewn mwy o berygl o ganlyniadau COVID-19 difrifol.
“Mae diogelwch brechlynnau COVID-19 yn cael ei gadarnhau gan brofiad miliynau o bobl sydd wedi'u brechu yn y DU hyd yma, ac mae'n bwysig bod pob cymuned yng Nghymru yn cael gwybodaeth lawn am fanteision brechu.
“Rydym hefyd am sicrhau bod pobl gymwys yng Nghymru yn ymwybodol, hyd yn oed os ydynt wedi cael pryderon cychwynnol, y gallant barhau i gael brechiad COVID-19 nawr neu'n ddiweddarach.”
Dywedodd Dr Simon Cottrell, Uwch-brif Epidemiolegydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Gall y rhesymau dros y gwahaniaethau hyn o ran canran y rhai sy'n cael eu brechu ymwneud â nodweddion unigol, cymunedol neu wasanaeth ond ar gam hwn y rhaglen, nid yw'r ffigurau cwmpasu yn derfynol ac mae cyfle o hyd i leihau anghydraddoldebau.
“Byddwn yn parhau i fonitro a chyflwyno adroddiad ar ganran y rhai sy'n cael eu brechu wrth i'r rhaglen frechu COVID-19 barhau i gael ei chyflwyno.”
Daw data brechu o System Imiwneiddio Cymru ar gyfer COVID-19. Efallai y bydd dal angen cofnodi cofnodion papur ar adeg echdynnu ac adrodd data. Bydd y niferoedd gwirioneddol a frechwyd yn uwch ac yn cael eu diweddaru mewn adroddiadau yn y dyfodol. Mae data'n destun sicrhau ansawdd parhaus a gallant newid yn y dyfodol.
Bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyhoeddi ar ddangosfwrdd data Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw.