Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol ac Agenda ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Iau 26 Medi 2024

Cyhoeddwyd: 17 Medi 2024

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r sefydliad iechyd cyhoeddus yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth GIG.

Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) yn gyfle i ymgysylltu â ni wrth adolygu ein cyflawniadau ar gyfer 2023/24 ar draws ehangder ein rolau a’n cyfrifoldebau niferus, ac wrth drafod y cyfleoedd a’r heriau sydd o’n blaenau.

Eleni, byddwn yn rhoi sylw i'n Rhwydweithiau Staff a'n gwaith gyda phartneriaid ar faterion newid hinsawdd.

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ein Hadroddiad Blynyddol ac Agenda'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bellach wedi'u cyhoeddi.

Darllenwch Adroddiad Blynyddol 2023 -2024 trwy ddolenni ar y dudalen isod:

Gallwch ddod o hyd i Bapurau Cyfarfod ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yma:

Rydym yn croesawu cwestiynau i’r Bwrdd a gellir cyflwyno’r rhain ymlaen llaw.

Cyflwynwch gwestiynau erbyn 5pm ddydd Llun 23 Medi 2024 trwy e-bost i PHW.CorporateGovernance@wales.nhs.uk gyda'r pennawd pwnc 'Cwestiwn ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol'.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ac archebu eich e-docyn am ddim trwy'r ddolen isod: