Mae adolygiad o’r llenyddiaeth sydd ar gael ar ymyriadau ar sail lleoliadau i leihau nifer yr achosion o fod dros bwysau a gordewdra, a gynhaliwyd gan Wasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi nodi diffyg tystiolaeth o ansawdd da yn ymwneud â chamau gweithredu a gymerwyd yn y maes hwn.
Edrychodd yr adolygiad ar 26 o adolygiadau systematig presennol o ymyriadau a gyhoeddwyd ers 2017. Gofynnodd ar ba lefel poblogaeth yr oedd ymyriadau systemau cyfan neu ar sail lleoliadau yn effeithiol o ran sefydlogi neu leihau nifer yr achosion o fod dros bwysau a gordewdra ymhlith plant ac oedolion. Fodd bynnag, canfuwyd bod y dystiolaeth ar y cyfan yn ddiffygiol, yn anghyson neu'n amhendant.
Er gwaethaf hyn, roedd rhai ymyriadau a ategwyd gan dystiolaeth o ansawdd da i gymedrol:
Roedd rhaglenni garddio ysgolion yn effeithiol o ran cynyddu cymeriant ffibr ymhlith cyfranogwyr
Gall cynyddu argaeledd diodydd calorïau isel yn y cartref leihau faint o ddiodydd llawn siwgr y mae plant yn eu hyfed
Mae ymyriadau maeth a ddarperir gan yr ysgol ac ar gyfrifiadur ar gyfer hybu bwyta'n iach yn effeithiol o ran lleihau cymeriant plant o ddiodydd melys, er nad oedd yn glir a oedd hyn wedi effeithio ar BMI yn gyffredinol.
Roedd ymyriadau eraill a adolygwyd yn cynnwys mentrau newid ymddygiad deietegol yn y gweithle ar gyfer oedolion, ac ymyriadau yn yr ysgol ar gyfer lleihau faint o ddiodydd melys y mae plant yn eu hyfed a chynyddu faint o ffrwythau a llysiau a fwyteir. Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth ynghylch yr ymyriadau hyn naill ai'n amhendant neu o ansawdd gwael, felly roedd hyder ymchwilwyr yn y canfyddiadau ar gyfer y mathau hyn o ymyriadau yn gyfyngedig.
Dywedodd Amy Hookway, Prif Ddadansoddwr Tystiolaeth a Gwybodaeth yn y Gwasanaeth Tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Bydd lleihau nifer yr achosion o fod dros bwysau a gordewdra yn y boblogaeth yn cael effaith sylweddol ar iechyd cyffredinol y genedl.
“Gall ein gwaith i asesu’r sylfaen dystiolaeth bresennol o ymyriadau a gynhaliwyd mewn mannau eraill ein helpu i benderfynu pa ymyriadau i’w harchwilio’n fanylach, gyda’r bwriad o asesu a allant fod yn addas i Gymru”.
Gellir dod o hyd i'r adroddiad llawn yma.