Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o Effeithiau Crychdonni Cymorth Gwyddor Ymddygiad

Cyhoeddwyd: 11 Mawrth 2025

Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi defnyddio Mapio Effeithiau Crychdonni Realaidd i archwilio cefnogaeth gwyddor ymddygiad ddiweddar ar draws y system iechyd cyhoeddus.

Mae Mapio Effeithiau Crychdonni Realaidd yn ddull a ddefnyddir i olrhain sut mae gweithgaredd yn creu effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol dros amser. Mae'n cyfuno mapio gweledol â gwerthuso i ddeall beth sy'n gweithio, i bwy, ym mha gyd-destun, a pham.

Defnyddiodd yr Uned Gwyddor Ymddygiad academyddion annibynnol i helpu adolygu cynnydd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i asesu effeithiau crychdonni gweithgarwch diweddar.  Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at themâu allweddol i’w datblygu gan gynnwys meithrin perthnasoedd, datblygu gallu a chymhwyso gwyddor ymddygiad yn ymarferol mewn polisi ac arfer.

Fel ymagwedd hollbwysig at wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau, gall gwyddor ymddygiad helpu wrth wneud y gorau o bolisi, gwasanaethau a chyfathrebu i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Strategaeth Tymor Hir Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r adroddiad adolygu effeithiau crychdonni hwn yn darparu argymhellion allweddol i symbylu ei effaith barhaus.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma: