Cyhoeddwyd: 10 Mehefin 2025
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio canllaw ar-lein newydd i helpu ymarferwyr, ymchwilwyr iechyd y cyhoedd a llunwyr polisi a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall a dangos agweddau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach ymyriadau iechyd y cyhoedd.
Mae'r E-Ganllaw Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd, a ddatblygwyd gan y Tîm Economeg a Gwerth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ganllaw ymarferol cam wrth gam sy'n cefnogi rhanddeiliaid i wreiddio dulliau sy'n canolbwyntio ar gymdeithas wrth ddarparu gwasanaethau, eu dylunio a gwneud penderfyniadau yn eu cylch.
Mae'r E-Ganllaw newydd yn cynnig dulliau ac offer, sy’n cynnwys Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) a Dadansoddiad Cost a Budd Cymdeithasol (SCBA), wedi'u haddasu'n benodol ar gyfer cyd-destunau iechyd y cyhoedd. Ei nod yw helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i eiriol dros fuddsoddi mewn atal ac amddiffyn rhag dadfuddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol.
Dywedodd Dr Mariana Dyakova, Arweinydd Llesiant yr Economi ac Iechyd Rhyngwladol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Ar adeg pan fo gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau cynyddol, ni fu’r angen i ddangos gwerth am arian, yr economi ehangach na chymdeithas, erioed yn fwy. Mae'r E-Ganllaw yn grymuso gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd, a'n partneriaid ar draws sectorau, i ddangos effaith ehangach eu gwaith, o ran canlyniadau iechyd, ac wrth wella bywydau, llesiant cymunedau, a chynaliadwyedd a chydnerthedd y system iechyd. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gweld y darlun cyflawn wrth benderfynu sut i fuddsoddi yn y dyfodol.”
Gellir defnyddio'r canllaw i wneud y canlynol:
• Dadlau dros ddulliau iechyd y cyhoedd ataliol
• Cyfleu gwerth cymdeithasol ehangach gwasanaethau
• Dylanwadu ar benderfyniadau comisiynu tecach a mwy cynaliadwy
• Cefnogi camau gweithredu i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a thu hwnt
Mae gwerth cymdeithasol yn cyfeirio at yr effaith gadarnhaol ehangach y mae gwasanaethau, polisïau neu ymyriadau yn ei chael ar lesiant unigolion a chymunedau – sy’n mynd y tu hwnt i ganlyniadau clinigol neu ofal. Mae'n cynnwys buddion fel:
Mae gwerth cymdeithasol yn cael ei gydnabod yn ffurfiol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) 2012, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried sut y gallai gwasanaethau wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu hardal.
Mae'r E-Ganllaw Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd ar gael nawr ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.