Neidio i'r prif gynnwy

Achosion yn agos at 100 fesul 100,000 mewn rhannau o Ogledd Cymru

Cyhoeddwyd: 24 Mehefin 2021

Amrywiolyn delta yw'r straen mwyaf cyffredin o achosion newydd yng Nghymru o hyd

Mae pobl yng Ngogledd Cymru yn cael eu cynghori i gadw pellter cymdeithasol, i dderbyn y cynnig o frechlyn, a hunanynysu a chael prawf os byddant yn cael symptomau Coronafeirws wrth i ardaloedd o Ogledd Cymru ddangos cynnydd sylweddol mewn achosion o'r feirws.

Yn sir y Fflint, mae'r gyfradd achosion saith diwrnod bellach yn 99.9, yng Nghonwy mae'n 88.7, Sir Ddinbych 72.1 a Wrecsam 51.5 o achosion fesul 100,000. Mae'r achosion yng ngogledd Cymru bellach bron yn gyfan gwbl yn cynnwys amrywiolyn Delta.

Cyfanswm nifer yr achosion o amrywiolyn Delta yng Nghymru yw 788, sef cynnydd o 209 ers y diweddariad diwethaf ddydd Llun 21 Mehefin.

Credir bod y cynnydd yng ngogledd Cymru yn gysylltiedig â theithio ar draws y ffin hydraidd â Gogledd-orllewin Lloegr.

Meddai Dr Eleri Davies, Cyfarwyddwr Digwyddiad, “Heddiw, mae ein dangosfwrdd yn dangos mai cyfanswm yr achosion o Delta yw 788 yng Nghymru.

“Mae'n wybyddus mai amrywiolyn Delta yw'r mwyaf cyffredin ym mhob achos newydd yng Nghymru a dangoswyd ei fod yn cael ei drosglwyddo'n haws o berson i berson na'r amrywiolyn amlycaf blaenorol, sef Alffa.  Mae hyn yn golygu bod angen i ni gyd gymryd camau i gadw ein hunain yn ddiogel a lleihau'r risg o drosglwyddo.

“Mae ein cyngor yn arbennig o berthnasol i bobl sy'n teithio i ardaloedd lle mae clystyrau hysbys o'r Coronafeirws oherwydd bod trosglwyddo'r amrywiolyn yn y gymuned yn amlwg.

“Rydym yn gweld achosion yn cynyddu dros Gymru ond yn enwedig yng Ngogledd ddwyrain Cymru lle mae teithio i Loegr ar gyfer gwaith a hamdden ac oddi yno yn gyffredin.

“Byddwch yn ymwybodol o Covid pan fyddwch yn teithio.  Rydym i gyd yn gyfarwydd iawn â chadw pellter cymdeithasol erbyn hyn, ond, drwy gadw o leiaf dau fetr i ffwrdd oddi wrth bawb arall, golchi ein dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb gallwn gadw ein hunain a'n ffrindiau a'n teulu'n ddiogel.

“Derbyniwch y cynnig i gael brechiad pan fyddwch yn ei gael, oherwydd bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn amrywiolyn Delta ar ôl dau ddos.

 “Mae awyru lleoedd dan do yn ffordd effeithiol arall o leihau lledaeniad haint, felly drwy agor ffenestri a drysau, gallwn ddiogelu ein hunain ymhellach.

“Os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau COVID, rhaid i chi hunanynysu a chael prawf os ydych chi neu unrhyw un arall yn eich aelwyd yn datblygu symptomau.

Mae Cwestiynau ac Atebion ar Amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (Cwestiynau Cyffredin: amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) o'r Coronafeirws - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru))

Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd am amrywiolion fesul bwrdd iechyd ar hyn o bryd, ond gall gadarnhau bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi rhoi gwybod am achosion.