Yn dilyn adolygiad o’r dystiolaeth sydd ar gael gan y Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghyd ag asiantaethau iechyd y cyhoedd eraill yn y DU, wedi cadarnhau na fydd brech M, Cytras Ia a Chytras Ib bellach yn cael eu hystyried yn glefydau heintus â chanlyniadau pellgyrhaeddol (HCID)
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mabwysiadu'r Siarter i Deuluoedd Mewn Profedigaeth oherwydd Trasiedi Gyhoeddus yn ffurfiol, gan ymuno â mwy na 50 o sefydliadau'r sector cyhoeddus ledled Cymru i ymrwymo i fod yn agored, tryloywder ac atebolrwydd wrth ymateb i drasiedïau cyhoeddus.
Mae’r ffigurau diweddaraf ar gamddefnyddio sylweddau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu tueddiadau pryderus o ran marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol a derbyniadau i’r ysbyty ledled y wlad.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adnewyddu'r dangosyddion yn offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd,
Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi defnyddio Mapio Effeithiau Crychdonni Realaidd i archwilio cefnogaeth gwyddor ymddygiad ddiweddar ar draws y system iechyd cyhoeddus.
Er i dros hanner y bobl yng Nghymru roi blaenoriaeth uchel i ofalu am eu hiechyd, mae llawer yn profi dirywiad yn eu llesiant corfforol a meddyliol, yn ôl yr arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae astudiaeth newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn BMC Public Health , wedi canfod bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) a phrofiadau ysgol negyddol yn cynyddu’r risg o iechyd meddwl a lles gwaeth pan fyddant yn oedolion. Mae’r canfyddiadau’n tanlinellu’r angen am ddulliau wedi’u llywio gan drawma mewn ysgolion i gefnogi plant sy’n profi adfyd gartref.
Mae'r astudiaeth, a gynhaliwyd ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol John Moores Lerpwl, yn ceisio gwella dealltwriaeth o effeithiau trallod yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae’n bosibl bod y dyddiau oer, tywyll yn dod yn gynhesach ac yn ysgafnach yn raddol, ond gall firysau’r gaeaf fel annwyd, ffliw a COVID-19 ddifetha ein cynlluniau o hyd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol diweddaraf Sgrinio Cyn Geni Cymru, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2024, gan dynnu sylw at rôl sgrinio cyn-enedigol o ran darparu gwybodaeth hanfodol i famau beichiog am eu hiechyd hwy ac iechyd eu baban.