Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i swydd yr hoffech wneud cais amdani, bydd angen i chi sicrhau bod y ffurflen gais y byddwch yn ei chwblhau yn gwneud cyfiawnder â chi ac yn rhoi'r cyfle gorau posibl i chi gael cyfweliad. Er mwyn cael y siawns orau o wneud hynny, rhaid i chi ddarllen y swydd ddisgrifiad a manyleb y person.
Bydd pob cyflogwr yn barnu pa mor dda y mae eich cais yn cyfateb i 'fanyleb y person' ar gyfer y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani. Yr ymgeiswyr sy'n cyfateb yn agos i fanyleb y person fydd y rhai ar y rhestr fer a byddant yn cael eu gwahodd am gyfweliad.
Er mwyn cael y siawns orau o gael gwahoddiad i gyfweliad, bydd angen i chi ddangos bod gennych y sgiliau a'r profiad a nodir yn y fanyleb person.
Peidiwch byth â chyflwyno'r un ffurflen gais ddwywaith ar gyfer gwahanol swyddi. Addaswch eich ffurflen gais bob amser i ddangos sut yr ydych yn bodloni manyleb person y rôl benodol yr ydych yn gwneud cais amdani.
Mae nifer o adrannau i'r ffurflen gais. Rydym yn argymell eich bod yn darllen y cyfarwyddiadau yn yr hysbyseb a’r ffurflen gais yn ofalus iawn a gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi pob adran o’r ffurflen gais yn llawn.
Ni ddefnyddir yr adrannau 'gwybodaeth bersonol' a 'gwybodaeth fonitro' at ddibenion llunio rhestr fer, ond fe'u defnyddir i gofrestru ymgeiswyr llwyddiannus ac at ddibenion monitro.
Yr adran 'gwybodaeth ategol' yn y ffurflen gais yw eich cyfle i ddangos eich sgiliau trosglwyddadwy. Dylech ddangos pam y byddech yn addas ar gyfer y rôl drwy ddangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf a nodir ym manyleb y person.
Felly, mae'n rhaid i chi rhoi enghreifftiau clir yn erbyn y meini prawf ym manyleb y person sy'n dangos i'r panel sy'n llunio'r rhestr fer fod gennych y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad trosglwyddadwy gofynnol i gael eich gwahodd am gyfweliad.
Yn yr adran ‘gwybodaeth ategol’ gallwch gynnwys, ymhlith pethau eraill, fanylion am y canlynol:
Pob hwyl gyda'ch cais.