Er mwyn i ymarferydd gael ei gynnwys yng Nghofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig, rhaid cwblhau portffolio drwy gynllun asesu lleol. Caiff y Cynllun i Gymru ei gydlynu gan y Tîm Pobl a Datblygu Sefydliadol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gall ymarferwyr a dderbynnir i’r Cynllun yng Nghymru gael mynediad i ystod o gymorth er mwyn datblygu eu portffolio o dystiolaeth ar sail y 34 o safonau. Mae’r cymorth hwnnw’n cynnwys cyfleoedd o ran datblygiad proffesiynol parhaus ynghyd â gwasanaeth mentora ynghylch hunanasesu, casglu tystiolaeth a dangos cymhwysedd. Caiff mentor ac aseswr eu pennu i ymgeiswyr, a chaiff ymgeiswyr fynediad i adnodd asesu ar-lein.
Dylai ymarferwyr a allai fod â diddordeb yn y Cynllun Cofrestru Ymarferwyr lenwi ffurflen gais gyda chymorth eu rheolwr llinell, a llenwi ffurflen hunanasesu. Fel rheol, ymdrinnir ag un garfan newydd o ymgeiswyr bob blwyddyn.
Rydym yn croesawu ymholiadau am unrhyw agwedd ar y Cynllun Cofrestru Ymarferwyr Iechyd Cyhoeddus.
I gael gwybodaeth am y dyddiadau pan ymdrinnir â’r garfan newydd nesaf o ymgeiswyr, cysylltwch ag
Peoplesupport.PHW@wales.nhs.uk
Gallai’r dogfennau canlynol fod yn ddefnyddiol