Gwerthoedd sefydliad sy’n ein gwneud ni’n ‘ni’ – sut rydym ni, yn unigol ac yn gasgliadol, yn ymddwyn ar y llwybr tuag at gyflawni ein diben craidd. Does dim posib ffugio gwerthoedd.
Cafodd ein gwerthoedd eu datblygu gan ein staff; gan eu bod mor greiddiol i hunaniaeth sefydliad, ni allai un neu ddau o bobl mewn ystafell gyfarfod feddwl am y rhain!
Yn 2016, gwahoddwyd yr holl gydweithwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau a gweithdai wedi’u hwyluso, gan ganolbwyntio ar sut rydym yn gweld ein hunain pan rydym ar ein gorau – rhywbeth y dylem anelu ato bob amser ac a ddylai fod yn ‘ddiofyn’ gennym.
Daeth themâu cyffredin yn glir iawn yn fuan iawn, a gyda chyfraniad terfynol gan ein Bwrdd, cytunwyd arnynt.
Mae gwaith yn parhau i ymgorffori ein gwerthoedd ar draws ein prosesau a’n gweithdrefnau yn ogystal â dod â hwy’n fyw i bob cydweithiwr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’n siwrnai newydd i ni, ond credwn yn gryf bydd cydnabod y gwaith gwych mae ein staff yn gwneud yn sicrhau ein bod ni fel sefydliad yn parhau i Weithio i Wireddu Dyfodol Iachach i Gymru.