Mae’r boddhad o wybod eich bod chi wedi chwarae rhan ganolog mewn Gweithio i Wireddu Dyfodol Iachach i Gymru yn wobr ynddi’i hun. Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, byddwn hefyd yn eich gwobrwyo chi gyda’n pecyn manteision hael.
-
Gwyliau Blynyddol - Byddwch yn cael lwfans gwyliau blynyddol hael o 27 diwrnod y flwyddyn a hefyd gwyliau banc. Mae hyn yn codi i 29 diwrnod ar ôl pum mlynedd ac wedyn 33 diwrnod ar ôl deng mlynedd o wasanaeth.
-
Cynllun Prynu Gwyliau Blynyddol - O dan ein cynllun, gall staff brynu hyd at 10 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol mewn blwyddyn ariannol, i’w dalu’n ôl dros gyfnod o 6 neu 12 mis drwy dderbyn gostyngiad mewn cyflog.
-
Gweithio Hyblyg - Rydym yn deall bod mwy i fywyd na gwaith ac rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn gallu eich helpu chi i sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng bywyd a gwaith. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig polisi gweithio hyblyg i’ch helpu chi i sicrhau cydbwysedd rhwng eich bywyd gartref ac yn y gwaith, gan gynnwys: oriau rhan amser, opsiynau rhannu swydd, egwyl mewn gyrfa, ymddeol hyblyg a gweithio o gartref pan yn briodol.
-
Iechyd a Lles - Mae mentrau iechyd a lles ar gael ledled yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys: gostyngiad ar aelodaeth o gampfa mewn nifer helaeth o ganolfannau ledled Cymru.
-
Iechyd Galwedigaethol - Mae pob aelod o staff yn gallu gwneud defnydd o’n gwasanaeth iechyd galwedigaethol: mae’r gwasanaeth yn gallu cefnogi staff gyda rheoli straen, cwnsela cyfrinachol a brechiadau tymhorol.
-
Rhaglen Cymorth i Gyflogeion Care First- Rydym yn cydnabod bod pawb angen cefnogaeth emosiynol o dro i dro, am resymau amrywiol. Gall staff wneud defnydd o gefnogaeth gyfrinachol gan
Care First.
-
Pensiwn - Fel sefydliad, rydym wedi cofrestru gyda chynllun pensiwn y GIG. Os byddwch yn ymuno â chynllun pensiwn y GIG, bydd yr Ymddiriedolaeth yn cyfrannu 14.3% tuag at eich pensiwn.
-
Cynllun Beicio i'r Gwaith - Os ydych chi eisiau beicio i’r gwaith, gallwch archebu beic i chi eich hun drwy gyfrwng y cynllun beicio i’r gwaith ac arbed hyd at 42% i chi eich hun oddi ar gost beic newydd.
-
Cynllun Aberth Cyflog Car Prydles - Mae Fleet Solutions yn cynnig cynllun aberth cyflog car prydlesu ar gyfer y GIG a sefydliadau sector cyhoeddus eraill.