Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir y Cynllun

Beth yw’r manteision?

Mae ymarferwyr iechyd cyhoeddus sy’n ymuno â chofrestr y DU yn elwa drwy gael cydnabyddiaeth wrthrychol am eu cyflawniadau, cynnal a gwella eu cymhwysedd a datblygu opsiynau o ran gyrfa ar gyfer y dyfodol. Wrth gofrestru mae ymarferwyr yn cael cyfle i fyfyrio a dysgu o’r gwaith y maent wedi’i gyflawni ac yn cael cyfle i ddangos ymrwymiad i yrfa ym maes iechyd cyhoeddus yn y dyfodol. Mae cofrestru hefyd yn dangos bod yr ymarferydd yn gymwys a’i fod yn deall yn llawn hanfodion ei rôl ym maes iechyd cyhoeddus. 

Mae’r cyhoedd yn elwa drwy wybod bod cymhwysedd, integriti ac atebolrwydd o safbwynt ymarfer ym maes iechyd cyhoeddus wedi’u sicrhau, bod modd gwirio hynny ar gofrestr gyhoeddus – a bod rhywun ar gael y gellir cwyno wrtho os bydd pethau’n mynd o chwith.

Mae ymarferwyr iechyd cyhoeddus yn aelodau allweddol o’r gweithlu iechyd cyhoeddus a gallant ddylanwadu’n helaeth ar iechyd a llesiant unigolion, grwpiau, cymunedau a phoblogaethau. Maent yn gweithio ar draws pob agwedd ar iechyd cyhoeddus, o’r meysydd sy’n ymwneud â gwella a diogelu iechyd i wybodaeth am iechyd, datblygu cymunedol a maetheg, gan wneud hynny mewn ystod eang o leoliadau, sy’n amrywio o’r GIG, y sector iechyd a llywodraeth leol i’r sector gwirfoddol a’r sector preifat. Ar draws y DU, mae miloedd lawer o ymarferwyr yn gweithio i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant cymunedau ac unigolion ac i leihau anghydraddoldebau. Maent yn gyfrifol am rai o’r gwelliannau pwysicaf i iechyd a phroblemau cymdeithasol yn y DU. Mae eu rolau’n amlddisgyblaethol ac maent yn gyfrifol am ymyriadau ar lefel unigolion a phoblogaeth, sy’n ymdrin â phroblemau sensitif a phersonol tu hwnt.

Diben y Cynllun Cofrestru Ymarferwyr Iechyd Cyhoeddus yw galluogi ymarferwyr i gofrestru gyda Chofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Dyma reoleiddiwr penodedig gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd cyhoeddus yn y DU, sy’n darparu gwasanaeth rheoleiddio proffesiynol i arbenigwyr ac ymarferwyr iechyd cyhoeddus o amrywiaeth o gefndiroedd, y mae gan bob un ohonynt sgiliau a gwybodaeth greiddiol gyffredin. Nod y broses gofrestru yw diogelu’r cyhoedd a gwneud i bobl deimlo’n hyderus bod y gweithlu eang hwn wedi’i hyfforddi’n briodol, ei fod yn gymwys a’i fod yn ffit i ymarfer.
Rhaid bod ymarferwyr yn gweithio ar “Lefel 5 Mynegai Fframwaith Gyrfaoedd Sgiliau ar gyfer Iechyd”

I fod yn ymarferydd cofrestredig, mae’n ofynnol i unigolion gwblhau portffolio adolygol sy’n dangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u diwydrwydd ar sail cyfres o 34 o safonau.

Mae’r portffolio yn cynnwys cyfres o esboniadau sy’n disgrifio darnau o waith neu brosiectau y mae’r unigolion wedi bod yn ymwneud â nhw, ac yna’r dystiolaeth ategol sy’n bodloni’r safon berthnasol. Gall y dystiolaeth fod mewn ystod o fformatau, gan gynnwys adroddiadau, cofnodion, negeseuon ebost a thystlythyrau. Mae’r 34 o safonau wedi’u grwpio dan yr 8 maes canlynol:

  1. Ymarfer yn broffesiynol, yn foesegol ac yn gyfreithlon
  2. Defnyddio gwybodaeth am iechyd cyhoeddus i ddylanwadu ar iechyd a llesiant poblogaeth
  3. Asesu’r dystiolaeth ar gyfer gwasanaethau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus
  4. Diogelu’r cyhoedd rhag risgiau i iechyd, gan fynd i’r afael ar yr un pryd â gwahaniaethau yn y graddau y mae pobl yn wynebu risg a gwahaniaethau mewn canlyniadau
  5. Gweithredu polisi a strategaeth ym maes iechyd cyhoeddus
  6. Cydweithredu ar draws sefydliadau a ffiniau er mwyn cyflawni’r swyddogaeth iechyd cyhoeddus
  7. Cynllunio, gweithredu a gwerthuso rhaglenni a phrosiectau iechyd cyhoeddus
  8. Cyfathrebu ag eraill er mwyn gwella canlyniadau o ran iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd

Caiff yr esboniadau eu hasesu gan aseswyr a hyfforddwyd yn lleol, a chaiff help ei ddarparu hefyd gan fentor. Fel rheol, bydd ymarferwyr yn ysgrifennu rhwng 3 a 6 esboniad er mwyn ymdrin â phob un o’r 34 o safonau. Pan fydd yr ymarferydd a’r aseswr yn fodlon bod pob un o’r safonau wedi’u bodloni, caiff y portffolio ei drosglwyddo i ddilyswr. Mae’r dilyswr yn sicrhau bod yr holl wybodaeth ofynnol yn ei lle a bod y broses gyfan wedi’i gweithredu yn gywir. Caiff y broses hon ei goruchwylio gan Banel Dilysu. Yna, argymhellir wrth Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig y dylai’r ymarferydd gael ei gynnwys yn y gofrestr. Rhaid bod o leiaf 50% o’r gwaith a ddisgrifir yn yr esboniadau yn llai na 5 mlwydd oed pan fydd y Panel Dilysu yn cyflawni ei waith.