Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn ag Ymwrthedd Gwrthfiotig

Beth yw gwrthfiotigau?

Mae gwrthfiotigau yn feddyginiaeth bwysig a ddefnyddir i drin heintiau a achosir gan facteria.

Gall bacteria addasu a chanfod ffyrdd o oroesi effeithiau gwrthfiotig.  Maent yn ffurfio 'ymwrthedd gwrthfiotig', sy’n golygu nad yw’r gwrthfiotigau’n gweithio bellach.

Mae ymwrthedd gwrthfiotig yn broblem gyffredin ar hyd a lled Cymru, Ewrop a gweddill y byd. Yn Ewrop a’r UD, mae 50,000 o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd heintiau ag ymwrthedd i wrthfiotigau. Ar draws y byd, mae o leiaf 700,000 o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd ymwrthedd i gyffuriau mewn heintiau bacterol.

Po fwyaf yr ydym yn defnyddio gwrthfiotigau, yr uchaf yw’r siawns y bydd bacteria yn datblygu ymwrthedd iddynt ac ni fyddant wedyn yn gweithio ar ein heintiau.

Mae defnydd a rhagnodi amhriodol o wrthfiotigau yn achosi ymwrthedd i ddatblygu.

Mae defnydd amhriodol yn cynnwys:

  • peidio cymryd eich gwrthfiotigau fel y maent wedi eu rhagnodi
  • colli dosau o wrthfiotigau
  • peidio cymryd gwrthfiotigau yn rheolaidd

  • cadw rhai ar gyfer adeg arall

Mae rhagnodi amhriodol yn cynnwys:

  • rhagnodi gwrthfiotigau yn ddiangen

  • defnydd anaddas o wrthfiotigau sbectrwm eang

  • dewis anghywir o wrthfiotigau a hyd neu ddos amhriodol

Mae tua 20% o’r presgripsiynau gwrthfiotig sy’n cael eu rhoi i gleifion yn ddiangen.

Mae bacteria ag ymwrthedd gwrthfiotig nid yn unig yn effeithio arnoch chi, ond gallant ledaenu i bobl (ac anifeiliaid) eraill sydd mewn cysylltiad agos â chi ac maent yn anodd iawn i’w trin. Mae lledaenu bacteria ag ymwrthedd yn fater pwysig yn ymwneud â diogelwch cleifion.

Mae heintiau ag ymwrthedd gwrthfiotig yn cynyddu lefelau clefydau a marwolaeth, yn ogystal â hyd arhosiad pobl yn yr ysbyty neu’r amser y mae’n ei gymryd i drin heintiau. Mae rhai bacteria sydd yn achosi heintiau mewn ysbytai, fel MRSA, ag ymwrthedd i sawl math o wrthfiotigau.

Nid oes llawer o wrthfiotigau newydd yn cael eu datblygu.  Wrth i ymwrthedd mewn bacteria dyfu, bydd yn mynd yn fwyfwy anodd i drin heintiau, ac mae hyn yn effeithio ar ofal cleifion.

Pam na ddylai gwrthfiotigau gael eu defnyddio i drin annwyd, y rhan fwyaf o achosion o beswch a dolur gwddf?

Mae pob math o annwyd a’r rhan fwyaf o fathau beswch a dolur gwddf yn cael eu hachosi gan feirysau ac fel arfer mae’r rhain yn gwella ar eu pen eu hunain.

Nid yw gwrthfiotigau yn gweithio yn erbyn heintiau a achosir gan feirysau.  Mae heintiau feirysol hefyd yn llawer mwy cyffredin na heintiau bacterol.

Pam na ellir defnyddio mathau eraill o wrthfiotigau i drin bacteria ag ymwrthedd?

Fe allant, ond efallai na fyddant mor effeithiol a gall fod ganddynt fwy o sgil-effeithiau.  Yn y pen draw, bydd bacteria yn datblygu ymwrthedd iddynt, ac efallai na fyddwn bob amser yn gallu dod o hyd i wrthfiotigau newydd yn eu lle.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae llai o wrthfiotigau newydd wedi cael eu canfod.

Sut gellir osgoi ymwrthedd gwrthfiotig?

Wrth ddefnyddio gwrthfiotigau yn llai aml gallwn arafu datblygiad yr ymwrthedd.

Nid yw’n bosibl ei atal yn gyfan gwbl ond mae ei arafu yn atal ymwrthedd rhag lledaenu ac mae’n prynu rhywfaint o amser i ddatblygu mathau newydd o wrthfiotigau.

Beth fydd yn digwydd os na allwn arafu ymwrthedd gwrthfiotig?

Os na fyddwn yn arafu lledaeniad ymwrthedd gwrthfiotig, erbyn 2050 bydd 10 miliwn o farwolaethau'r flwyddyn o heintiau ag ymwrthedd- 1 person bob 3 eiliad.

Yn y dyfodol, gallai’r perygl o haint fod mor uchel y gallai cemotherapi neu lawdriniaeth fod yn rhy beryglus.

Beth alla i ei wneud am ymwrthedd gwrthfiotig?

Peidiwch â gofyn am wrthfiotigau. Ystyriwch ddewisiadau amgen trwy ofyn i’ch meddyg teulu neu fferyllydd am feddyginiaethau dros y cownter all helpu i ddechrau.

Dim ond pan fydd yn briodol i wneud hynny y dylech ddefnyddio gwrthfiotigau.  Cymerwch wrthfiotigau yn union fel y’u rhagnodir, peidiwch byth â’u cadw ar gyfer y dyfodol a pheidiwch byth â’u rhannu gyda phobl eraill.

Gwyliwch y fideo isod ac yna ewch i visit antibioticguardian.com i wneud addewid am y ffordd y byddwch yn defnyddio gwrthfiotigau yn well a helpu i achub y feddyginiaeth hanfodol hon rhag darfod.

 

Fellby pryd bydd gwrthfiotigau yn cael eu rhagnodi ar fy nghyfer?

Dim ond pan fyddant wedi cael eu rhagnodi gan weithiwr iechyd proffesiynol y dylid cymryd gwrthfiotigau.  Bydd eich meddyg ond yn rhagnodi gwrthfiotigau pan fyddwch eu hangen, er enghraifft, am haint ar yr aren neu lid yr ysgyfaint.

Gall gwrthfiotigau achub bywydau gyda heintiau fel llid yr ymennydd.  Trwy beidio eu defnyddio’n ddiangen, maent yn fwy tebygol o weithio pan fyddwn eu hangen.

Gweler ein gwe-dudalen Ymwrthedd Gwrthfiotig: Adnoddau ar gyfer y Cyhoedd am fwy o wybodaeth.