Neidio i'r prif gynnwy

Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gwrthfiotigau

Eleni, cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrthfiotigau'r Byd rhwng 12fed – 18fed o Dachwedd 2018, mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Gwrthfiotigau Ewrop ar y 18fed o Dachwedd.

Mae’r rhain yn fentrau iechyd cyhoeddus byd-eang ac ar draws Ewrop sydd yn annog defnydd cyfrifol o wrthfiotigau.

Yng Nghymru eleni rydym wedi cydweithio gyda Public Health England (Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Lloegr) i ddatblygu ei adnoddau ymgyrch “Keep Antibiotics Working” – “Cadw Gwrthifiotigau’n Gweithio” i’w defnyddio yng Nghymru. Fe fyddwn yn cefnogi Meddygon Teulu, Byrddau Iechyd ac ysbytai i gyfleu y prif negeseuon isod:

  • Mae cymryd gwrthfiotigau pan nad oes eu hangen arnoch yn eich rhoi chi a’ch teulu mewn perygl.
  • Mae cymryd gwrthfiotigau yn annog bacteria niweidiol sy’n byw y tu mewn i chi i ddatblygu ymwrthedd. Mae hynny’n golygu ei bod yn bosibl na fydd gwrthfiotigau yn gweithio pan fydd wir eu hangen arnoch.
  • Gwrandewch ar gyngor eich meddyg ynghylch gwrthfiotigau.

 Gallwch lawrlwytho adnoddau i gefnogi’r Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gwrthfiotigau Cymru yma:

Rydym hefyd yn falch iawn i gadarnhau ein bod yn dal i annog gymaint o weithwyr Gofal Iechyd, cydweithwyr mewn iechyd anifeiliaid, addysgwyr a myfyrwyr, aelodau o’r cyhoedd, teulu, ffrindiau a chyd-weithwyr i addunedu i fod yn Warcheidwaid Gwrthfiotigau ac i ddefnyddio’r wefan newydd yn y Gymraeg: