Neidio i'r prif gynnwy

Ymwrthedd Gwrthfiotig

Ymwrthedd i wrthfiotigau yw un o'r bygythiadau mwyaf sy'n ein hwynebu

Mae gwrthfiotigau'n cael eu defnyddio i drin heintiau a achosir gan facteria, ond bob tro rydym yn eu cymryd, rydym yn rhoi'r cyfle i'r bacteria ymladd yn ôl. Mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn digwydd pan fydd bacteria'n dod o hyd i ffordd o drechu'r cyffuriau sydd wedi'u dylunio i'w lladd.  

Mae gwrthfiotigau'n mynd yn llai effeithiol oherwydd ein bod yn eu gorddefnyddio ac, mewn rhai achosion, yn eu camddefnyddio. Mae hon yn broblem rhaid i ni daclo nawr cyn i bethau waethygu.

Yn fyd-eang, mae dros 700,000 o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd heintiau sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau. Oni bai ein bod yn gweithredu nawr, ni fydd triniaethau rheolaidd fel cemotherapi, trawsblannu organau a gosod cymalau newydd yn bosibl mwyach gan na fydd y gwrthfiotigau sydd eu hangen i'w gwneud yn ddiogel yn effeithiol.  

Mae gwrthfiotigau'n adnodd gwerthfawr ac mae angen i ni eu trin fel hynny. Rhaid i ni i gyd weithredu nawr i arafu lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau. 

Sut y gallwn gadw gwrthfiotigau i weithio? 

Cofiwch, nid gwrthfiotigau yw'r ateb bob amser. Pan fyddant yn cael eu rhagnodi, maent yn cael eu rhagnodi'n benodol i chi a'ch haint.  

Trwy ddilyn y camau hyn gallwn ni gyd chwarae rhan i arafu lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau.  

  • Dylech gymryd gwrthfiotigau dim ond pan fydd eich meddyg, fferyllydd, nyrs neu ddeintydd yn dweud wrthych. 
  • Dylech bob amser gymryd gwrthfiotigau yn union fel y'u rhagnodwyd. 
  • Peidiwch byth â chadw gwrthfiotigau ar gyfer nes ymlaen neu eu rhoi i rywun arall. 

Helpwch ni i ledaenu’r neges am ymwrthedd gwrthfiotig trwy lawr lwytho a rhannu'r negeseuon a defnydd sydd ar gael ar ein Llyfrgell Asedau:

Dod yn Warcheidwad Gwrthfiotig (cliciwch CC ar waelod y fideo am is-deitlau)

Helo yna, dwi wrthi’n paratoi presgripsiwn arall o wrthfiotigau. Dwi'n dueddol o baratoi cryn dipyn o’r rhain mewn diwrnod.

Chi'n gweld, mae gwrthfiotigau yn ddull effeithiol iawn o drin heintiau bacteriol, ond maen nhw'n gwbl ddiwerth yn erbyn heintiau feirysol fel yr annwyd cyffredin.

Mae'n bwysig iawn defnyddio gwrthfiotigau dim ond pan fo'n gwbl angenrheidiol.

Mae hyn oherwydd rhywbeth a elwir yn ymwrthedd gwrthficrobaidd.  Swnio'n eithaf cymhleth yn tydi?

 

Wel, mae'n eithaf hawdd ei ddeall mewn gwirionedd.  Chi'n gweld, po fwyaf o wrthfiotigau rydyn ni'n eu cymryd, y mwy o siawns y bydd y bacteria sy’n cael ei dargedu yn datblygu ymwrthedd

 

*yn tisian. Mae’n ddrwg gen i.

Beth bynnag, fel arfer pan fydd ein cyrff yn cael eu heintio, gall ein meddyg roi cwrs o wrthfiotigau i wneud i'r bacteria ddiflannu.

Fodd bynnag, ar ryw adeg yn y dyfodol mae'n debygol y byddwch yn cael eich ail-heintio.

 

* yn tisian

Y tro hwn, os yw'r bacteria wedi datblygu ymwrthedd, ni fydd yr un gwrthfiotig hwnnw mor effeithiol wrth ladd y bacteria. Yn wir, mae'r bacteria yma wedi dod yn ymwrthol trwy rywbeth o'r enw mwtadiad. Ar ôl hynny bydd yn lluosi ac yn lledaenu.

Er mwyn lladd y bacteria newydd hwn mae angen i ni ddefnyddio gwrthfiotig newydd.

Mae'n hawdd gweld sut y gall hyn ddod yn broblem fawr iawn yn gyflym.

Un sy'n wirioneddol anodd ei ddatrys.

 

Chi'n gweld, ni allwn atal ymwrthedd gwrthficrobaidd, ond gallwn arafu'r broses trwy gymryd gwrthfiotigau dim ond pan fo angen a gorffen y cwrs bob amser. 

Y dewis arall yw bod y sefyllfa’n mynd allan o reolaeth.

Felly, a wnewch chi helpu i frwydro yn erbyn yr ymwrthedd?