Neidio i'r prif gynnwy

Firysau'r gaeaf

Mae feirysau fel COVID-19, y ffliw a feirws syncytiol anadlol (RSV) yn aml yn achosi heintiau ar y frest a niwmonia yn y gaeaf. Pan fydd y clefydau hyn yn gyffredin yn y gymuned, mae mwy o bobl yn dod i ysbytai i gael triniaeth ar eu cyfer. Weithiau bydd y feirws wedyn yn lledaenu i gleifion eraill a staff yn yr ysbyty. Mae gweithgareddau atal heintiau yn yr ysbyty, fel golchi dwylo, glanhau a gwisgo offer amddiffynnol, yn ceisio atal cleifion a staff rhag dal feirysau.

Adroddir canlyniadau profion o samplau cleifion gan labordai ledled Cymru. Mae gan y rhaglen HARP fynediad at ganlyniadau profion. Maent yn dadansoddi’r canlyniadau hyn ac yn eu defnyddio i gynhyrchu dangosfyrddau data o dueddiadau mewn pobl sy'n dod i'r ysbyty gyda'r feirysau hyn a'r rhai sy'n eu dal yn yr ysbyty.

Mae rhaglen HARP yn cydweithio â byrddau iechyd yng Nghymru i leihau’r risg y bydd cleifion yn dal clefydau firaol mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill.

 

*Cynnwys sydd ar gael yn Saesneg