Mae Bacteraemia yn digwydd pan fydd bacteria (bygiau) yn mynd i mewn i'r llif gwaed. Gall hyn arwain at heintiau mewn rhannau eraill o'r corff, gan gynnwys sepsis sy'n peryglu bywyd. Mae mesurau atal heintiau yn yr ysbyty, fel golchi dwylo a glanhau, yn ceisio atal cleifion rhag dal bacteria.
Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd yng Nghymru fonitro pedwar bacteria sy'n achosi bacteraemia, trwy gadw gwyliadwriaeth. Mae'r rhaglen HARP yn cyflawni'r gwaith cadw gwyliadwriaeth hwn ar ran Llywodraeth Cymru a'r GIG yng Nghymru. Mae labordai o Fôn i Fynwy yn cyflwyno canlyniadau profion ar samplau cleifion. Mae rhaglen HARP yn gallu cael at ganlyniadau'r profion, a’u dadansoddi a'u defnyddio i gynhyrchu dangosfyrddau data o dueddiadau bacteraemia.
Mae'r rhaglen HARP yn cydweithio â byrddau iechyd Cymru i leihau'r risg y bydd cleifion yn datblygu bacteraemia mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill