Neidio i'r prif gynnwy

Arolygon cyffredinolrwydd pwynt (PPS)

Haint sy'n gysylltiedig â gofal iechyd a phresgripsiynau eddyginiaethau gwrthficrobaidd. Mae heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd yn risg iechyd cyhoeddus ddifrifol. Mae amcangyfrif niferoedd heintiau a phresgripsiynau meddyginiaethau gwrthfiotig yn hanfodol er mwyn lleihau heintiau y gellir eu hatal a phresgripsiynu amhriodol. Mae'r maes gofal iechyd yn defnyddio arolygon cyffredinolrwydd pwynt (ACP) i bennu cyfran y cleifion sydd â haint penodol ac i ganfod faint sy'n derbyn gwrthfiotigau i drin neu atal haint. Mae'r arolwg fel arfer yn rhoi cipolwg i ni ac yn darparu data ar bwynt penodol mewn amser.

Mae tîm HARP wedi cynnal sawl ACP cenedlaethol mewn lleoliadau gofal iechyd yng Nghymru, fel ysbytai a chyfleusterau gofal hirdymor (cartrefi gofal / nyrsio). Mae data a ddadansoddwyd gan dîm HARP yn cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd Cymru. Mae'r data'n nodi pa fesurau sydd angen eu rhoi ar waith neu eu gwella er mwyn helpu i atal heintiau rhag datblygu a lledaenu a pha gynlluniau a pholisïau ddylai fod ar waith i sicrhau'r defnydd gorau o wrthfiotigau.

Caiff data ei gasglu am bob claf yn yr ysbyty a phob preswylydd mewn cartrefi gofal / nyrsio ar ddiwrnod yr arolwg. Mae'r data a gesglir yn cynnwys, faint o bobl sydd yn yr ysbyty neu'n preswylio mewn cartref, manylion demograffig, canran y bobl sydd â haint a pha fath o haint, faint o bobl sy'n cymryd gwrthfiotigau ac ar gyfer beth y rhoddwyd y gwrthfiotigau ar bresgripsiwn. Cesglir gwybodaeth arall megis defnyddio dyfeisiau meddygol a lles unigolion yn gyffredinol.