Neidio i'r prif gynnwy

Gwyliadwriaeth Gwrthficrobaidd

 

Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn digwydd pan fydd yr organebau sy'n achosi haint yn esblygu ffyrdd o oroesi triniaethau. Mae'r term gwrthficrobaidd yn cynnwys meddyginiaethau gwrthfiotig, gwrthbrotosoaidd, gwrthfeirol a gwrthffwng. Mae gorddefnyddio cyffuriau gwrthficrobaidd a pheidio â'u defnyddio'n gywir wedi arwain at gynnydd mewn bygiau sydd ag ymwrthedd iddynt, gan wneud heintiau'n anoddach neu'n amhosibl eu trin.

Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd wedi'i nodi fel un o'r heriau byd-eang mwyaf dybryd sy'n ein hwynebu y ganrif hon, ac mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan ei fod ymhlith y 10 bygythiad mwyaf i iechyd cyhoeddus yn fyd-eang.

Mae gwaith gwyliadwriaeth rhaglen HARP yn olrhain tueddiadau ymwrthedd gwrthficrobaidd yma yng Nghymru. Mae'r cyfraddau ymwrthedd sy’n cael eu cofnodi yn ymwneud â’r bygiau mwyaf cyffredin sy'n cael eu canfod yn y llif gwaed neu'r wrin.

Mae canlyniadau profion ar samplau cleifion yn cael eu hadrodd gan labordai ledled Cymru. Mae tîm HARP yn gallu cael at y canlyniadau, eu lawrlwytho a'u dadansoddi i gynhyrchu'r adroddiadau. Mae'r tîm HARP yn cydweithio â'r Byrddau Iechyd yng Nghymru i roi gwybod iddynt pa wrthficrobau sy’n methu â thrin heintiau penodol mewn mwy a mwy o achosion.