Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdrefnau Arbennig: tatŵio, colur lled-barhaol, tyllu'r corff, electrolysis ac aciwbigo

Cylchlythyr

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 – Triniaethau Arbennig Cyflwyno’r Cynllun Trwyddedu Gorfodol yng Nghymru Cylchlythyr Ymarferydd Rhif 6

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 – Triniaethau Arbennig Cyflwyno’r Cynllun Trwyddedu Gorfodol yng Nghymru Cylchlythyr Ymarferydd Rhif 7

Yn y cylchlythyr hwn, yn ogystal â’n diweddariad arferol o’r canolfannau hyfforddi, mae erthygl o dan y teitl ‘Gofynnwch i’r Dermatolegydd’ a chyngor ar reoli gwastraff.

Yn ogystal â'n diweddariad arferol gan y canolfannau hyfforddi, mae'r cylchlythyr hwn hefyd yn cynnwys cyngor gan Arbenigwyr Iechyd y Cyhoedd ar Hepatitis B ac MRSA. Mae gennym hefyd 'Ddyddiad i'ch Dyddiadur' ar gyfer y cyntaf mewn cyfres o Weminarau Ymarferwyr rhad ac am ddim.

Mae'r cylchlythyr hwn yn cynnwys y diweddaraf gan y Canolfannau Hyfforddi Cymeradwy sy'n cynnig Dyfarniad Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd (RSPH) Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig. Mae hefyd yn rhoi diweddariad byr o'r weminar a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr ac eglurhad pellach ynglŷn â'r ffioedd trwyddedu cenedlaethol dangosol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

 

Gweminarau

Y modiwl hwn yw’r cyntaf mewn cyfres a fydd yn canolbwyntio ar y cynllun trwyddedu gorfodol triniaethau arbennig a ddaw i rym yn 2024. Yn y modiwl hwn fe welwch y recordiadau a chyflwyniadau o'r gweminar a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2023. Mae yna hefyd adran o adnoddau ychwanegol lle byddwch yn dod o hyd i ragor o wybodaeth a dogfennaeth i gefnogi'r dysgu hwn. Mae’r adnodd hwn yn benodol ar gyfer artistiaid tatŵ, artistiaid colur lled-barhaol, tyllwyr corff, aciwbigwyr ac electrolegwyr i baratoi’r ymarferwyr ar gyfer cyflwyno’r cynllun.