Neidio i'r prif gynnwy

Gweithlyfrau Atal a Rheoli Heintiau

Mae Gweithlyfrau Addysgol wedi'u cynhyrchu'n benodol ar gyfer Cartrefi Gofal a lleoliadau Gofal Cartref ac wedi'u datblygu ar y cyd gan y Grŵp  Atal a Rheoli Heintiau (IPC) Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Harrogate a'r Cylch. Diolchwn i’n cydweithwyr yng Nghymru am gefnogi’r astudiaeth beilot a chynghori ar gynnwys a dosbarthiad, gan gynnwys Fforwm Gofal Cymru, y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, Gwella Addysg Iechyd Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn cydnabod yr holl gartrefi gofal a darparwyr gofal cartref a gymerodd ran yn y peilot a helpodd i wneud gwelliannau ar gyfer yr 2il rifyn sydd bellach ar gael. 

Mae'r Gweithlyfrau hyn, sy’n cynnwys 76-80 tudalen A5, ar gyfer pob aelod o staff eu cadw fel rhan o'u portffolio yn ogystal â phwynt cyfeirio ar gyfer gweithio o ddydd i ddydd. Mae gan y Gweithlyfrau amser dysgu dan arweiniad o 3 awr i'w gwblhau gyda 'Profi eich gwybodaeth' ar ddiwedd pob adran â thystysgrif i'w chymeradwyo gan y rheolwyr. Ar ôl cwblhau'r Gweithlyfrau, gall gyfrif tuag at eich gofyniad Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer eich proffesiwn a'ch gofynion ar gyfer cofrestru gofal cymdeithasol.

Mae'r tystysgrifau'n ddilys am flwyddyn a gellir archebu taflen brawf a thystysgrif newydd o Wanwyn 2024. Bydd y gweithlyfrau’n cael eu hadolygu yn 2025 a bydd unrhyw newidiadau mewn polisi yn cael eu postio yn adran diweddariadau’r wefan.

 

Mae’r Gweithlyfrau’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau megis:

  • Hylendid dwylo
  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
  • Hylendid Anadlol a Hylendid Pesychu
  • Gwaredu gwastraff yn ddiogel
  • Rheoli gollyngiadau gwaed a hylif y corff yn ddiogel
  • Rheoli offer gofal yn ddiogel
  • Rheoli Llieiniau'n Ddiogel
  • Rheoli'r amgylchedd gofal yn ddiogel
  • Rheoli offer miniog yn ddiogel
  • Casglu sbesimenau
  • Gofal cathetr wrinol
  • Atal haint y llwybr wrinol (UTI)
  • Haint clostridioides difficile
  • MDROs, gan gynnwys Enterobacteriaceae sy’n cynhyrchu Carbapenem (CPE)
  • Staffylococws awrëws sy'n gwrthsefyll Methisilin (MRSA)
  • Salwch anadlol
  • Gastro-enteritis feirysol/Norofeirws

 

Mae'r gweithlyfrau hyn ar gael yn Gymraeg fel fersiwn electronig neu yn Saesneg fel copi papur. Bydd copïau papur ar gael i'w dosbarthu 1 Medi.

Ar gael am £3.29 am bob gweithlyfr (gan gynnwys postio a phecynnu) wrth brynu 61 neu fwy o gopïau.  Gweler y ffurflen archebu am ragor o fanylion.

Bydd unrhyw gyngor sy'n archebu'n uniongyrchol yn cael gostyngiad o 10% oddi ar archebion sy’n cynnwys dros 61 Gweithlyfr.

 

Gweithlyfrau Cartrefi Gofal

 

Gweithlyfrau Gofal Cartref

 

Sut i Archebu

Lawrlwythwch y ffurflen archebu isod a dilynwch y cyfarwyddiadau a nodir.

 

Canllawiau

 

Tystebau

Cartrefi Gofal

“Gofal cathetr - doeddwn i ddim yn gwybod na ddylai bag cathetr gael ei wagio mwy nag sydd ei angen gan y gallai hyn achosi haint” 

“Nid oeddwn wedi clywed am C.difficile o’r blaen. Teimlaf fy mod wedi dysgu beth yw hwn a sut i’w reoli’n ddiogel” 

“Roedd yn weithlyfr da ac addysgiadol iawn y gwnaethom fwynhau ei gwblhau. Mewn gwirionedd, fe helpodd ddod â’r tîm ynghyd a sbardunodd sgyrsiau ynghylch rheoli heintiau na fyddai wedi cael ei drafod heb y gweithlyfr hwn.”

 
Gofal cartref

“Adnodd gwerthfawr iawn ac mae’n wych cael y wybodaeth wedi’i choladu mewn un lle. Braf teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi h.y. derbyn yr un wybodaeth / hyfforddiant â chydweithwyr yn y GIG"

“Fe’ch atgoffir o’r canlyniadau os na chaiff y gweithdrefnau hyn o ran atal heintiau hyn eu dilyn. Mae’n ddyletswydd arnom i gadw pawb yn ddiogel drwy ddilyn canllawiau”

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â HARP@Wales.nhs.uk