Neidio i'r prif gynnwy

Addysg a sgiliau da

Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cyflawniad addysgol fel bloc adeiladu sylfaenol ar gyfer iechyd a lles. Mae addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth gynyddu disgwyliad oes a nifer y blynyddoedd rydym yn eu treulio mewn iechyd da. Mae addysg yn dylanwadu ar ein hiechyd trwy lwybrau megis cyfleoedd cyflogaeth, llythrennedd iechyd, ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd, a chymorth cymdeithasol. Heb fynediad i addysg dda, gall anghydraddoldebau iechyd gynyddu drwy gylchoedd o anfantais rhwng cenedlaethau.

Yn eu tro, mae canlyniadau addysgol yn cael eu dylanwadu gan y canlynol:

  • Iechyd corfforol a meddyliol babanod, plant a phobl ifanc: Mae iechyd yn sylfaen i ddysgu a llwyddiant yn yr ysgol.
  • Iechyd a lles rhieni a gofalwyr: Mae amgylchedd teuluol cefnogol yn gwella gallu plentyn i ganolbwyntio a pherfformio.
  • Ysgolion sy’n Ystyriol o Drawma. Mae ysgolion sy'n mynd i'r afael ag effeithiau trawma yn darparu amgylcheddau dysgu mwy cefnogol.
  • Ymgysylltu rhieni â staff ysgol a gwasanaethau iechyd: sicrhau cyfranogiad gweithredol mewn addysg ac iechyd

 
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru felly wedi ymrwymo i wella iechyd a lles babanod, plant a phobl ifanc. Trwy raglenni amrywiol, ein nod yw cefnogi gwell canlyniadau dysgu trwy fynd i'r afael ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol a'u hatal. Mae ein gwaith yn amrywio o ddarparu gwasanaethau iechyd, darparu rhaglenni addysgol i eiriolaeth polisi.

Er bod y cysylltiad rhwng iechyd ac addysg yn glir, gall dangos tystiolaeth o effaith uniongyrchol rhaglenni Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyflawniad addysgol fod yn heriol. Mae llawer o ffactorau y tu allan i'n rheolaeth yn dylanwadu ar ganlyniadau addysgol, sy'n ei gwneud yn anodd sefydlu cysylltiadau achosol. Fodd bynnag, mae ein gwaith i wella iechyd, meithrin amgylcheddau sy’n cael eu llywio gan drawma, a chefnogi ymgysylltu â theuluoedd yn creu amodau sy’n galluogi canlyniadau dysgu gwell.


 

 

Ffactorau sy’n effeithio ar gyflawniad addysgol yng Nghymru - mapio systemau cyfranogol

 

 

Adnoddau