Neidio i'r prif gynnwy

Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru

Penderfynyddion ehangach iechyd yw’r ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sy’n effeithio ar iechyd a lles. Er mwyn cyflawni newid cadarnhaol parhaus, mae angen i ni ddeall ac ymateb i’r systemau cymhleth sy’n dylanwadu ar y ffactorau hyn a’n hiechyd.

Mewn partneriaeth â Chyfarwyddwyr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ledled Cymru a’u timau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llwyddo i sicrhau tair blynedd o gyllid gan raglen cyllid grant Llunio Lleoedd y Sefydliad Iechyd. Mae Llunio Lleoedd yn canolbwyntio ar annog llywodraethau lleol a phartneriaid lleol i weithredu ar sail system gyfan i fynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd ac mae rhaglenni eisoes wedi cael eu sefydlu yn Lloegr a’r Alban.

Bydd y rhaglen yn darparu adnodd cenedlaethol i helpu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) i ddefnyddio ymagwedd ar sail systemau wedi’i llywio gan ddamcaniaeth a thystiolaeth yn eu gwaith i ddylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd wrth iddynt weithredu eu cynlluniau llesiant, gan rannu’r hyn a ddysgwyd rhwng BGCau a ledled y Deyrnas Unedig.

Os ydych chi’n rhan o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus neu’n cefnogi eu gwaith, a byddai cymryd rhan yn y rhaglen o ddiddordeb i chi, llenwch fynegiant o ddiddordeb yma