Canser yr Ysgyfaint

Mae cyfrifo cyfran yr achosion canser yr ysgyfaint sy'n gysylltiedig â smygu yng Nghymru (risg priodoli) yn cael ei wneud gan ddefnyddio'r dull hwn.

Trosolwg

Canser yr ysgyfaint yw un o’r pedwar math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru a’r math mwyaf cyffredin o ganser yn fyd-eang. Cafodd 2,370 o achosion newydd ddiagnosis yng Nghymru yn ystod 2012, sydd yn gyfwerth â rhyw 45 o achosion bob wythnos, ac yn rhoi cyfrif am 13 y cant o’r holl achosion newydd o ganser.

Canser yr ysgyfaint yw’r trydydd math mwyaf cyffredin o ganser ymysg dynion, a’r ail math mwyaf cyffredin o ganser ymysg menywod yng Nghymru. Mae nifer yr achosion newydd ymysg menywod yn agosáu at y nifer ymysg dynion.  Rydym yn amcangyfrif ar gyfer 2012, i fenywod Cymru fod â’r drydedd gyfradd mynychder uchaf o 40 o wledydd Ewropeaidd 

Gellir atal canser yr ysgyfaint. Mae smygu’n rhoi cyfrif am ryw 36 o achosion yr wythnos yng Nghymru, ymysg smygwyr yn bennaf ond hefyd ymysg y rheiny nad ydynt yn smygu. Gellir cysylltu tua 9 achos yr wythnos i ffactorau eraill fel radon, asbestos, llygredd aer gronynnol a chyswllt galwedigaethol, a silicosis, unwaith eto ymysg smygwyr a’r rheiny nad ydynt yn smygu. Mae’r perygl o radon ac asbestos yn cael ei luosi’n sylweddol trwy ychwanegu smygu. Mae mesurau effeithiol ar lefel poblogaeth yn bodoli i reoli tybaco a’r rhan fwyaf o ffactorau risg eraill.

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae canser yr ysgyfaint yn gyfrifol am fwy o farwolaethau na chanserau’r coluddyn a’r fron gyda’i gilydd.

Mae nifer blynyddol yr achosion a’r gyfradd mynychder yn cynyddu ymysg menywod yng Nghymru (ffigur 1), yn arbennig ymysg menywod hŷn. Mae’r nifer blynyddol ymysg menywod bellach yn agosáu at niferoedd dynion. Mae’r gyfradd ar gyfer menywod yng Nghymru gyda’r uchaf yn Ewrop, ond dynion a menywod yr Alban sydd â’r cyfraddau uchaf o holl wledydd y DU. Yn y cyfamser, mae nifer yr achosion yn aros yn weddol debyg tra bod y gyfradd yn gostwng yn raddol ymysg dynion Cymru.

 

Dogfennua

Mynychder Canser yr Ysgyfaint
Dyddiad cyhoeddi 06 Ionawr 2015
Goroesi Canser yr Ysgyfaint
Dyddiad cyhoeddi 28 Ionawr 2015

 

Trosolwg Clwstwr Meddygaeth Teulu

Canser yr ysgyfaint yw un o'r mathau mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru ac mae'n dangos yr anghydraddoldebau ehangaf. Mae'r mynychder ymysg menywod yng Nghymru yn cynyddu'n gyflym ac mae ymhlith yr uchaf yn Ewrop. Ymysg dynion mae'n parhau i leihau. Mae'r bwlch rhwng nifer fawr yr achosion yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf a'r cyfraddau is yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf yn ehangu.

Mae’r nifer sy’n goroesi canser yr ysgyfaint yn fach. Mae tua 70 y cant o bobl yn marw o fewn blwyddyn o gael diagnosis yng Nghymru. Ein cyfraddau goroesi yw’r isaf yn Ewrop bron [1]. Mae gan bobl sy'n cael diagnosis yn 75 oed a hŷn ac sy'n byw yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf yng Nghymru gyfraddau goroesi gwell na phobl yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf. Mae’r cyfraddau goroesi’n gwaethygu yn sgil cynnydd mewn amddifadedd ar gyfer diagnosis ar gam cynnar yn unig, ond mewn camau eraill mae’r cysylltiad yn aneglur [2]. Waeth beth yw amddifadedd ardal, ceir amrywiad daearyddol. Mae rhai ffactorau allweddol sy'n gysylltiedig â chyfraddau goroesi gwaeth yn cynnwys diagnosis o gam hwyr a henaint. Mae dros 70 y cant yn goroesi flwyddyn os cânt ddiagnosis  ar y cam cynharaf, ond mae'r rhan fwyaf o achosion - tua dwy ran o dair - yn cael diagnosis o gamau hwyr neu pan fydd rhywun farw. Gwyddom yn sgil archwiliadau canser yr ysgyfaint cenedlaethol mai cyfran fach o gleifion canser yr ysgyfaint sy'n cael triniaeth ddiffiniol yng Nghymru [3].

Mae'r cyfraddau mynychder yng Nghymru yn amrywio rhwng byrddau iechyd, a cheir cyfraddau mynychder ystadegol arwyddocaol wahanol i gyfradd Cymru mewn tri bwrdd iechyd. Ceir amrywiad tebyg yn y cyfraddau yn y clystyrau ym mhob bwrdd iechyd, gyda chyfraddau mynychder ystadegol arwyddocaol wahanol mewn rhai clystyrau o gymharu â'u byrddaua iechyd. Dylid cofio bod y gyfradd mynychder yng Nghymru yn gymharol uchel o gymharu ag Ewrop. Ymysg menywod 75 oed a hŷn y gwelir yr amrywiad mwyaf o ran mynychder. Ar gyfer y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, a Chymru gyfan, mae bwlch amddifadedd ehangach ymysg dynion nag ymysg menywod wrth gymharu'r ardaloedd yn y pumedau â'r amddifadedd mwyaf a'r rhai yn y pumedau â'r amddifadedd lleiaf. Yn ogystal, mae'r bwlch amddifadedd rhwng yr hanner â'r amddifadedd lleiaf a'r hanner â'r amddifadedd mwyaf yn ehangach ymysg pobl 75 oed a hŷn nag ar gyfer y rhai o dan 75 oed.

Er mai canser cam hwyr yw'r mwyaf cyffredin, ceir gwahaniaeth o wyth pwynt canran rhwng y byrddau iechyd sydd â'r cyfrannau uchaf ac isaf, ac eithrio Powys. Mae dosbarthiad y camau'n amrywio'n sylweddol ar draws y clystyrau, a chlystyrau ar y ffin â Lloegr sydd fwyaf tebygol o gael cyfrannau uwch o ganser cam anhysbys nag unrhyw gam arall. Ar lefel bwrdd iechyd, mae cyfran yr achosion o ganser yr ysgyfaint cam anhysbys yn gyson uwch yn y grŵp oedran hŷn o gymharu â'r grŵp oedran iau.

Mae'r cyfraddau goroesi cymharol un flwyddyn yn gyson uwch ymhlith menywod na dynion ym mhob bwrdd iechyd ond mae'r gwahaniaethau'n fach.  Mae'r cyfraddau goroesi hefyd yn gyson uwch ymysg y grŵp oedran iau o gymharu â'r grŵp oedran hŷn. Mae'r patrymau hyn yn aml i'w gweld yn y clystyrau, ond ceir mwy o amrywiad, o bosibl oherwydd niferoedd bach. Rhaid inni gofio, fodd bynnag, bod gan Gymru gyfradd oroesi isel o gymharu â'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Mae'r gyfradd oroesi ar gyfer canser yr ysgyfaint cam cynnar  yn llawer uwch na'r gyfradd oroesi ar gyfer canser yr ysgyfaint cam hwyr mewn byrddau iechyd a chlystyrau, a hynny'n gyson.

Mae goblygiadau ein hadroddiad i Gymru, byrddau iechyd a chlystyrau meddygon teulu yn amlwg. Awgryma'r cymariaethau yn rhyngwladol ac o fewn Cymru y gall cyfraddau mynychder is, llai o anghydraddoldeb a chyfraddau goroesi gwell fod yn bosibl ar lefel clwstwr. Er bod amrywiadau rhwng clystyrau o ganlyniad i niferoedd bach yn aml yn ein rhwystro rhag dod i gasgliadau ystadegol cadarn, gall dehongli manylach gyda gwybodaeth leol arbenigol a thrwy ystyried Cymru a'r cyd-destun rhyngwladol ychwanegu at y ddealltwriaeth o'n canfyddiadau ar lefel clwstwr. Mae nifer y bobl sy'n ysmygu yng Nghymru wedi lleihau, ond gallai fod yn is, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd ac ymysg menywod. Mae ein hadroddiad yn bwrw rhywfaint o oleuni ar yr amrywiad mewn camau adeg y diagnosis ac mewn cyfraddau goroesi yn ôl cam mewn perthynas ag oedran, rhyw ac amddifadedd ar draws y clystyrau. Mae diagnosis cynharach a mynediad cyflym i driniaethau a allai fod yn iachaol, fel llawdriniaeth a radiotherapi, yn hanfodol i wella cyfraddau goroesi. Rydym yn gobeithio y gall ein hadroddiad gyfrannu at adolygiadau lefel clwstwr o achosion o ganser yr ysgyfaint a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynychder a'r cyfraddau goroesi gwael yng Nghymru.

 

Proffil Meddygon Teulu o Ganser yr Ysgyfaint gan y Byrddau Iechyd

 

Cyfeiriadau

[1] De Angelis R et al. Cancer survival in Europe 1999-2007 by country and age: results of EUROCARE-5 – a population-based study. Lancet Oncol 2013; 15:23-34. Ar gael yn: http://www.thelancet.com/pdfs/journals/lanonc/PIIS1470-2045(13)70546-1.pdf [Fel ar: 20 Awst 2015]

[2] Iechyd Cyhoeddus Cymru. Canser yr ysgyfaint yng Nghymru.Cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint a goroesi yn ôl cyfnod. Caerdydd: Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru; 2015. Ar gael yn: http://www.udgcc.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/1111/151214Lung%20cancer%20in%20Wales%20Cymraeg%20Final.pdf [Fel ar: 20 Awst 2015]

[3] Health and Social Care Information Centre. National lung cancer audit report 2014. Health and Social Care Information Centre; 2014. Ar gael yn: https://www.rcplondon.ac.uk/sites/default/files/nlca_annual_report_2014.pdf [Fel ar: 21 Awst 2015]