Neidio i'r prif gynnwy

Rhybudd ffliw

Cefnogwch ein hymgyrch ffliw fewnol.

Mae'r ymgyrch genedlaethol i frechu rhag y ffliw yn dechrau fis nesaf. Bydd ein hymgyrch ffliw fewnol yn dechrau ar yr un pryd a gofynnir i chi ei chefnogi ac annog eich timau i fynd i glinigau imiwneiddio a gynhelir yn eu gweithleoedd.

Mae gennym darged uchelgeisiol o 70% ar gyfer pob aelod o staff, rheng flaen a swyddfa. Mae hyn yn cymharu â tharged cenedlaethol GIG Cymru, sef 60% ar gyfer staff rheng flaen. Byddwn yn monitro'r nifer sy'n cael eu brechu ac yn adrodd ar hyn i Gyfarwyddiaethau ond nid ydym am wneud i staff deimlo dan bwysau drwy ddyfynnu targedau.

Dyma’r negeseuon allweddol ar gyfer eich timau:

  • mae cael y brechiad yn eich diogelu chi, eich teulu, ffrindiau, cydweithwyr a phawb rydych yn dod i gysylltiad â nhw drwy'r gwaith
  • ein cyfrifoldeb personol a phroffesiynol yw diogelu ein hunain ac eraill rhag dal y ffliw felly mae GIG Cymru yn arbennig o awyddus i staff rheng flaen gael eu himiwneiddio