Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli presenoldeb yn y gwaith

Cofrestrwch ar gyfer hyfforddiant i annog presenoldeb yn y gwaith.

Mae dyddiadau newydd yn cael eu trefnu ar gyfer hyfforddiant ar y polisi Rheoli Presenoldeb yn y Gwaith.

Mae cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch ar draws y sefydliad wedi lleihau'n raddol ers lansio'r polisi fis Hydref diwethaf.

Mae hyfforddiant ar gyfer rheolwyr llinell wedi ysgogi llawer o drafod ac mae cynrychiolwyr wedi dweud ei fod wedi gwella eu dealltwriaeth o reoli cyflogeion sydd ar absenoldeb salwch a'r cymorth a'r arweiniad y gall Pobl a Datblygu Sefydliadol eu darparu.

Bydd yr hyfforddiant yn parhau tan fis Ebrill nesaf. Bydd rheolwyr llinell yng Ngogledd Cymru hefyd yn gallu cael mynediad i'r un hyfforddiant gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.