Neidio i'r prif gynnwy

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 10 oed ym mis Hydref

Helpwch eich tîm i fwynhau'r dathlu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 10 oed ar 1 Hydref.

Cyhoeddwyd y dathliadau pen-blwydd yn gynharach y mis hwn a gwahoddwyd pawb i gymryd amser o'u diwrnod yn ystod mis Hydref er mwyn dod at eich gilydd. 

Bydd y Tîm Cyfathrebu yn anfon pecynnau allan/wedi anfon pecynnau allan er mwyn eich helpu i gynllunio, gan gynnwys posteri y gall eich timau eu personoli er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'ch digwyddiadau a baneri arbennig i addurno ardal eich parti.

Sicrhewch fod eich timau'n manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn i ddathlu:

  • Fel tîm, dewiswch ddyddiad ac amser i gynnal eich dathliad
  • Dywedwch wrth y Tîm Cyfathrebu (communications.team@wales.nhs.uk) pryd y bydd hyn yn digwydd er mwyn iddynt allu ei ychwanegu at galendr canolog
  • Defnyddiwch y poster i hysbysebu eich dathliad ac annog pobl i ddod â gwahanol fwyd a diod
  • Dathlwch!
  • Rhannwch y lluniau ar Grŵp Facebook y Staff