Beth gallwch ei wneud i helpu i sicrhau ei fod yn llwyddiant.
Thema eleni yw “Creu Cymru iachach” a gallwch chwarae rhan yn ei llwyddiant.
Gallwch ddarllen am y gynhadledd ar wefan y Gynhadledd. Gallwch ein helpu i adeiladu momentwm drwy:
- Sicrhau bod amser ar gael i'ch staff ddod i'r gynhadledd. Yn hytrach nag aros iddynt ofyn, edrychwch ar ba argaeledd y gallwch ei greu a'u cael i gofrestru am le
- Os ydych yn gweithio gyda rhwydweithiau y tu allan i Iechyd Cyhoeddus Cymru, dylech ledaenu'r neges am y gynhadledd a hyrwyddo'r themâu a'r heriau
- Byddem yn croesawu awgrymiadau ynghylch cysylltiadau posibl a allai gyfrannu at sesiwn neu a oes gennych enghreifftiau perthnasol y gallem eu defnyddio i ddangos y materion y byddwn yn eu trafod?
- Gallwch hefyd ymuno â'r digwyddiad Facebook i gael diweddariadau, cyhoeddiadau a siarad â chynadleddwyr eraill