Hyfforddiant i'w gyflwyno i reolwyr newydd.
Mae rheolwyr llinell da yn allweddol i sicrhau gweithle gwych a gall wneud y gwahaniaeth rhwng gweithlu hapus, ymgysylltiol a gweithlu heb gymhelliant, llai cynhyrchiol.
Mae datblygu ein rheolwyr a'n harweinwyr i fod yn grŵp medrus, effeithiol ac ymgysylltiol yn allweddol i gyflawni ein Strategaeth Hirdymor. Ond, hyd yma, nid ydym wedi cynnig hyfforddiant i bobl sy'n newydd i'r rôl.
Mae hynny ar fin newid. Mae Pobl a Datblygu Sefydliadol yn treialu rhaglen sefydlu i reolwyr ar gyfer rheolwyr llinell newydd er mwyn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i arwain a rheoli pobl a gwasanaethau'n effeithiol.