Eich cyfle chi i drafod gweithio hyblyg.
Os oes gennych gwestiynau am ein polisi Gweithio Hyblyg neu os hoffech drafod arfer gorau gallwch ymuno â sesiwn galw heibio ym mis Hydref.
Cynhelir y sesiynau yng Nghwr y Ddinas 2 ond maent yn agored i reolwyr o bob rhan o'r sefydliad. Fe'u cynhelir rhwng 09:00 – 16:00 ar 30 Hydref yn ystafell 6.2.
Os ydych wedi'ch lleoli y tu allan i Gwr y Ddinas 2 gallwch drefnu slot 30 munud dros y ffôn neu Skype ar gyfer sesiwn y bore (09:00 – 12:00). Gall unrhyw un sydd yng Nghwr y Ddinas 2 alw heibio drwy gydol y prynhawn.
Gallwch gadw slot amser drwy anfon e-bost i peoplesupport.phw@wales.nhs.uk gan nodi eich dewis amser a dull cysylltu (ffôn neu Skype).
Mae cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn dod yn gynyddol bwysig, i gyflogeion a chyflogwyr, a gweithio hyblyg yw'r dull gorau o hyd o ran galluogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Gallwch ddarllen rhagor am fanteision niferus gweithio hyblyg yn y Pecyn Cymorth Gweithio Hyblyg a darganfod sut y gallwch chi, fel rheolwr, greu'r amodau er mwyn i weithio hyblyg ffynnu.
Mae sesiwn cinio a dysgu bellach wedi'i chynllunio ar gyfer 27 Tachwedd, a bydd Pobl a Datblygu Sefydliadol yn lansio arolwg gweithio hyblyg yn fuan i ddeall pa mor gyffredin yw gweithio hyblyg yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.