Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n ddiogel

Mae cymryd rhan mewn sgrinio yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud i ofalu am eich iechyd chi .

Mae sgrinio coluddion yn brawf y gallwch ei gwblhau gartref. Mae’r prawf yn chwilio am waed cudd yn eich pŵ. Gall gwaed yn eich pŵ fod yn arwydd o ganser y coluddyn neu newidiadau eraill fel polypau (tyfiannau bach).

Os cewch eich gwahodd yn ôl am brofion pellach, siaradwch â'ch nyrs sgrinio am sut y bydd eich apwyntiad yn digwydd yn yr ysbyty.  Byddant yn esbonio beth maent yn ei wneud i'ch cadw'n ddiogel yn ystod eich apwyntiad.

Cofiwch, er mwyn atal yr haint rhag lledaenu, peidiwch â mynychu os ydych yn sâl.

Cysylltwch â ni os:
  • Oes gennych chi unrhyw gwestiynau/pryderon neu os ydych chi angen cymorth ar sut i wneud eich pecyn prawf coluddyn.
  • Oes angen pecyn prawf coluddyn arall.
  • Hoffech siarad â rhywun am yr hyn mae'r canlyniadau yn ei olygu.
Cysylltwch â'ch meddygfa os ydych:
  • Yn poeni am unrhyw newidiadau yn eich iechyd. Peidiwch ag aros am wahodd i gael eich sgrinio.

Rhagor o wybodaeth am sgrinio a’r gwahanol brofion.