Mae unrhyw farwolaeth plentyn yn drasiedi. Mae’r golled yn aml yn cael effeithiau dinistriol sy’n newid bywydau’r rhieni, brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau a’r teulu a’r gymuned ehangach. Gall nodi ffactorau sy'n cyfrannu at farwolaeth helpu i atal marwolaethau plant yn y dyfodol.
Mae’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant (CDRP) yn casglu gwybodaeth am yr holl farwolaethau plant yng Nghymru neu blant Cymreig sy’n marw yn rhywle arall. Mae'r wybodaeth yn ddienw ac yn cael ei defnyddio gan y CDRP i adolygu'r hyn a ddigwyddodd ac i weld beth y gellir ei ddysgu i atal yr un peth rhag digwydd i blentyn neu berson ifanc arall.
I roi gwybod i ni am farwolaeth plentyn defnyddiwch y ffurflen hysbysu marwolaeth plentyn: