Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Glystyrau a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Mae nifer o ddeddfwriaethau allweddol yng Nghymru megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 a dogfennau strategol gan gynnwys Cymru Iachach sy’n darparu cyfeiriad strategol i’r sefydliadau hynny sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae angen trawsnewid y system iechyd, y mae gofal sylfaenol yn elfen allweddol ohoni, ar fyrder gan ddefnyddio dull sy’n rhoi blaenoriaeth i waith atal sylfaenol ac eilaidd.

Mae clwstwr yn dod â’r holl wasanaethau lleol sy’n ymwneud ag iechyd a gofal ynghyd ar draws ardal ddaearyddol, ac fel arfer mae’n gwasanaethu poblogaeth o rhwng 25,000 a 100,000. Mae gwaith clwstwr yn ymateb i ofynion y gymuned, yn defnyddio dulliau sy’n seiliedig ar anghenion, ac yn defnyddio’r holl wasanaethau ac adnoddau lleol i gyflawni’r budd gorau i’r boblogaeth leol. Dylai cydweithwyr proffesiynol gydweithio i ddeall anghenion lleol ac i ddatblygu atebion effeithiol o ran y cyd-destun lleol.

Yn dibynnu ar y ffactorau sy’n ymwneud â chyd-destun lleol a rhanbarthol, gellid creu cynlluniau neu lwybrau gofal sydd â’r nod o wella iechyd y geg ar gyfer y boblogaeth ar lefel y clwstwr, ar draws clystyrau, ar lefel bwrdd iechyd neu ar lefel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Dylai prif amcanion unrhyw gynlluniau a llwybrau lleol neu ranbarthol gynnwys ffyrdd o leihau anghydraddoldebau iechyd y geg ac annhegwch o ran cael mynediad at ofal deintyddol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.