Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Mae'r tîm Iechyd Deintyddol y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu arweinyddiaeth system ac yn gweithio ar draws sectorau gyda sawl rhanddeiliad a all gael effaith ar iechyd y geg poblogaeth Cymru. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i greu gweledigaeth a rennir ar y cyd ar wella iechyd y geg poblogaeth Cymru. Mae ein partneriaid allanol allweddol yn cynnwys Byrddau Iechyd,  Llywodraeth CymruAddysg a Gwella Iechyd Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG CymruIechyd a Gofal Digidol Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, prifysgolion, gwasanaethau deintyddol yng Nghymru a sefydliadau ledled y DU sy'n gweithio ar agendâu iechyd y geg.

Mae Tîm Iechyd Deintyddol y Cyhoedd:

  1. Yn darparu cyngor ac arweinyddiaeth iechyd deintyddol arbenigol ar wella iechyd y geg gan gynnwys lleihau anghydraddoldebau iechyd y geg
  2. Yn darparu cyngor a chefnogaeth neu'n dylanwadu ar bolisïau cenedlaethol sy'n ymwneud ag iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol yng Nghymru
  3. Yn cynghori ac yn cefnogi cynllunio gwasanaethau deintyddol strategol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol
  4. Yn cynghori ac yn cynorthwyo i weithredu cynlluniau gweithredu iechyd y geg lleol a chenedlaethol
  5. Yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer rhaglenni gwella iechyd y geg cenedlaethol
  6. Yn asesu statws iechyd y geg ac anghenion y boblogaeth
  7. Yn arwain y rhaglen epidemioleg ddeintyddol genedlaethol yng Nghymru
  8. Yn cynghori Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd a rhanddeiliaid eraill ar wella systemau ansawdd a diogelwch deintyddol yng Nghymru
  9. Yn cefnogi rhanddeiliaid i integreiddio gwella ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau deintyddol
  10. Yn cynghori ac yn cefnogi materion diogelu iechyd sy'n gysylltiedig â deintyddiaeth
  11. Yn cefnogi neu'n comisiynu prosiectau ymchwil a gwerthuso iechyd deintyddol y cyhoedd
  12. Yn darparu hyfforddiant yn Arbenigedd Iechyd  Deintyddol y Cyhoedd

Ynglŷn â Thîm Iechyd Deintyddol Y Cyhoedd Cymru Gyfan

Mae Tîm Iechyd Deintyddol y Cyhoedd Cymru Gyfan yn cynnwys Ymgynghorwyr mewn Iechyd Deintyddol y Cyhoedd, Hyfforddai Arbenigol, Ymarferydd Iechyd Deintyddol y Cyhoedd, Dadansoddwr Gwybodaeth, Rheolwr Busnes a Swyddogion Cymorth Prosiect. Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr academaidd ym mhrifysgolion Cymru, yn enwedig Prifysgol Caerdydd.

Cysylltwch â ni: dentalpublichealth@wales.nhs.uk

Wedi'i ddiweddaru 15/11/24