Neidio i'r prif gynnwy

Hyb ACE Cymru

Sefydlwyd Hyb ACE Cymru  yn 2017 ac fe’i sefydlwyd i gefnogi Cymdeithas Cymru i helpu i greu Cymru sy’n Ystyriol o Drawma ac ACEs ac i wneud Cymru yn arweinydd o ran mynd i’r afael ag ACEs, eu hatal a’u lliniaru.

Rydym yn hyrwyddo rhannu syniadau a dysgu, ac yn herio a newid ffyrdd o weithio, fel y gallwn gyda’n gilydd dorri’r cylch ACEs.

Ariennir Hyb ACE Cymru gan Lywodraeth Cymru ac fe’i noddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n rhan o Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Llesiant.

Ein 5 Nod

  • Rhannu hysbysrwydd a gwybodaeth am ACEs, gwrando a gweithio gydag asiantaethau partner sy'n ymgysylltu â chymunedau, plant a theuluoedd i ganfod atebion fydd yn gweithio.
  • Rhannu tystiolaeth am yr hyn y gall sefydliadau ei wneud yn wahanol i helpu i atal a lliniaru ACEs, a sut maent yn cefnogi’r rhai sydd wedi profi ACEs neu drawma.
  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau ymhlith gweithwyr proffesiynol, darparu hyfforddiant iddynt er mwyn herio rhwydweithiau mewnol ac allanol a gyrru newid.
  • Dysgu oddi wrth ein gilydd, rhannu gwybodaeth a darparu arbenigedd sy'n arwain at weithredu.
  • Gyrru newid trwy ffyrdd heriol o weithio, ledled Cymru

Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) yn brofiadau straenus sy’n digwydd yn ystod plentyndod sy’n niweidio plentyn yn uniongyrchol (e.e. cam-drin rhywiol neu gorfforol) neu’n effeithio ar yr amgylchedd y mae’n byw ynddo (e.e. tyfu i fyny  mewn tŷ â thrais domestig). (Bellis et al 2016)

Mae angen i ni i gyd ddeall a siarad am ACEs a thrawma, oherwydd y mwyaf rydym yn gwybod, y mwyaf y gallwn feddwl am sut y gallwn sicrhau ein bod yn ymateb mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma.

Mae Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma darparu diffiniad Cymru o ddull sy’n ystyriol o drawma, ac yn fframwaith holl-gymdeithas i gefnogi dull cydlynol, cyson o ddatblygu a gweithredu ymarfer sy’n ystyriol o drawma ledled Cymru, gan ddarparu’r cymorth gorau posibl i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Os ydym yn ystyriol o drawma rydym yn anfeirniadol, yn garedig ac yn dosturiol, gan hyrwyddo gwydnwch a chryfder fel adnoddau cyfunol yn hytrach nag adnoddau unigol. Rydym yn deall pwysigrwydd diogelwch ac ymddiriedaeth wrth fynd i’r afael ag adfyd, trawma a thrallod.

Hyb ACE Cymru: www.acehubwales.com | www.hybacecymru.com 
Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma: www.traumaframeworkcymru.com | www.traumaframeworkcymru.com/cy/