Neidio i'r prif gynnwy

About

04/03/21
Beth yw'r Proffil Iechyd?

Bydd y Proffil Iechyd yn helpu pobl ag anableddau dysgu i gael gofal iechyd da a diogel ar yr
adeg y mae ei angen arnynt. Mae pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr ynghyd ag ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol wedi helpu i’w ddatblygu ac wedi
llywio'r cynnwys a'r fformat. Mae'r proffil yn cynnwys gwybodaeth am anghenion iechyd, gofal a chymorth a chyfathrebu’r unigolyn. Dyluniwyd y proffil i fod yn eiddo i'r unigolyn ac, os oes angen, gall gofalwr helpu i'w lenwi. 

04/03/21
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y Proffil Iechyd a'r pasbort ysbyty neu offer cyfathrebu eraill ar gyfer anableddau dysgu?

Cwblhawyd adolygiad o offer cyfathrebu iechyd gan Northway et al (2017), a gwnaethant nodi bod 60 math gwahanol o offer cyfathrebu iechyd yn cael eu darparu heb fawr o gysondeb mewn dyluniad, cynnwys, hyd ac enw’r ddogfen. Daethant i’r casgliad y gallai’r amrywiad hwn leihau eu heffeithiolrwydd ac y gallai gwybodaeth bwysig gael ei cholli.

Comisiynodd Gwelliant Cymru Brifysgol De Cymru i gwblhau ymchwil bellach i nodi prif elfennau offeryn cyfathrebu iechyd, megis gwybodaeth bwysig a hyd a fformat optimaidd. Defnyddiwyd yr ymchwil hon i ddatblygu Proffil Iechyd Unwaith i Gymru. 

Bellach, dylid defnyddio Proffil Iechyd Unwaith i Gymru yn hytrach nag offer cyfathrebu eraill ar gyfer anableddau dysgu, megis y pasbort ysbyty, ac fe’i dyluniwyd i’w ddefnyddio ym mhob math o ymweliadau gofal iechyd, gan gynnwys practisiau meddygon teulu, safleoedd optegwyr a deintyddion a gofal cymdeithasol.

04/03/21
Sut mae'r Proffil Iechyd yn gweithio?

Yn ddelfrydol, dylai pobl ag anableddau dysgu a/neu'r rhai sy'n eu cefnogi ddod â'u Proffil Iechyd gyda nhw pryd bynnag y maent yn cael gofal iechyd a dylent ei gynnig i'r staff gofal iechyd sy'n gweithio gyda nhw.


Mae ar gael i'w lawrlwytho a'i argraffu ar hyn o bryd.

04/03/21
Sut mae defnyddio Proffil Iechyd?

Os gwelwch yn dda:

  • Defnyddiwch yr wybodaeth yn y Proffil Iechyd i'ch cynorthwyo i ddarparu gofal o ansawdd uchel i'r bobl hynny ag anableddau dysgu rydych chi'n gweithio gyda nhw. Gall wneud gwahaniaeth enfawr nid yn unig i'ch gallu i ddarparu gofal o'r fath ond, yn bwysicaf oll, gall hefyd eich cynorthwyo chi i sicrhau eu diogelwch, eu hiechyd a'u llesiant ac i wella eu profiad gofal iechyd.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich cydweithwyr yn ymwybodol o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y Proffil Iechyd. Hefyd, os bydd unigolyn yn cael ei drosglwyddo naill ai dros dro neu'n barhaol i adran neu ardal arall, dylech sicrhau bod y Proffil Iechyd yn mynd gydag ef a'ch bod chi'n gwneud y staff sy'n ei dderbyn yn ymwybodol o’i fodolaeth a’i bwysigrwydd.
  • Os gwnaed unrhyw newidiadau tra bo'r unigolyn gyda chi (er enghraifft mewn perthynas â'r feddyginiaeth a bresgripsiynir iddynt) dylid nodi hyn ar y Proffil Iechyd ynghyd â’ch blaenlythrennau a dyddiad y newid.

Am ragor o wybodaeth, gweler y canllawiau ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol