Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Laparotomi Brys Cymru

11/12/20
Beth yw Laparotomi Brys Cymru?

Mae'r rhaglen tair blynedd yn canolbwyntio ar wella canlyniadau llawfeddygol a phrofiad cyffredinol yr ysbyty i gleifion sy'n cael laparotomi brys. Mae'r tîm yn gweithio gyda 13 ysbyty ledled Cymru i dreialu gwelliannau.

11/12/20
Pa waith mae Laparotomi Brys Cymru yn ei wneud?

Mae'r rhaglen yn dilyn model Cydweithredol Laparotomi Brys y DU . Mae'r rhaglen Laparotomi Cymru Brys yn gweithio gyda thimau amlddisgyblaethol yn yr 13 ysbyty dan sylw ac mae tri arweinydd clinigol yn symud ymlaen â'r gwaith ar draws rhanbarthau lleol.

11/12/20
Gyda phwy mae Laparotomi Brys Cymru yn gweithio?

Mae'r tîm yn gweithio gyda byrddau iechyd ledled Cymru yn ogystal ag arbenigwyr ledled y DU i lywio eu gwaith.

11/12/20
Beth yw'r camau nesaf ar gyfer Laparotomi Brys Cymru?

Lansiwyd y rhaglen ym mis Gorffennaf 2018. Mae gwelliannau yn cael eu profi ar hyn o bryd mewn safleoedd ysbytai a byddant yn cael eu defnyddio i wella mesurau canlyniadau Cymru ymhellach.

11/12/20
Gyda phwy y dylwn gysylltu am Laparotomi Brys Cymru i gael mwy o wybodaeth?

I ddarganfod mwy am y rhaglen, cysylltwch â Margaret Rennocks, Arweinydd y Rhaglen, Margaret.rennocks@wales.nhs.uk

Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda'r tri arweinydd clinigol rhanbarthol a Thimau Amlddisgyblaethol ar draws pob un o'r 13 safle ysbyty sy'n rhan o'r rhaglen.