Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Therapïau Seicolegol

10/12/20
Beth yw'r gwaith yn y maes hwn?

Mae gwaith y tîm wedi cynnwys cyhoeddi Matrics Cymru, y canllawiau cyntaf ar gyfer darparu therapïau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru a'r Cynllun Cenedlaethol cysylltiedig i gefnogi gweithredu. Cyhoeddwyd Matrics Plant (Canllawiau ar Ddarparu Ymyriadau Seicolegol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru) yn 2020 a’i Gynllun Gweithredu cysylltiedig yn 2021. Mae’r Tablau Tystiolaeth, sy’n cefnogi darparu ymyriadau seicolegol ar gyfer oedolion, pobl ifanc a phlant, wedi’u diweddaru ac fe’u diwygiwyd ddiwethaf yn 2023.

10/12/20
Gyda phwy mae'r tîm yn gweithio?

Mae’r tîm yn gweithio’n bennaf ochr yn ochr â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac aelodau Pwyllgor Rheoli Therapïau Seicolegol Cenedlaethol (NPTMC). Mae’r NPTMC yn cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd a chynrychiolwyr o bwyllgorau lleol amlddisgyblaethol amlasiantaeth ledled Cymru.

10/12/20
Beth yw'r camau nesaf?
  • Cyhoeddi:

  • Adolygiad cyflym o'r ymchwil i wella mynediad at, ac ansawdd, ymyriadau seicolegol ar gyfer pobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
  • Canllawiau a chynllun gweithredu cysylltiedig i wella mynediad at, a darpariaeth, ymyriadau seicolegol i bobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. 
  • Adolygiad systematig o ymyriadau gyda'r nod o wella rheoleiddio emosiynol ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion.
  • Datblygu canllawiau ar ddarparu ymyriadau seicolegol i bobl ag anabledd dysgu

10/12/20
Gyda phwy y dylwn gysylltu?

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Andrea Gray, Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl Cymru,  andrea.gray@wales.nhs.uk